Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2025-26
Rhagair
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn crynhoi'r ystod o weithgareddau a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth reoli'r perygl o lifogydd yng Nghymru yn 2025/26.
Text to come from Rachel Sion.
Jeremy Parr
Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau, Cyfoeth Naturiol Cymru
Crynodeb gweithredol
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, a'n diben craidd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.
Mae gennym amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau, o reoleiddiwr i gynghorydd, tirfeddiannwr, rheolwr asedau ac ymatebwr brys. Mae gennym drosolwg strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n golygu goruchwylio a chyfleu gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gennym bwerau hefyd i reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 275,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd. Mae hyn yn golygu tua un eiddo ym mhob saith yng Nghymru. Rydym yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg o reoli perygl llifogydd drwy'r gweithgareddau a gyflawnir gennym. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r buddsoddi a wnaed, gweithgareddau allweddol, a chyflawniadau CNC o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026. Mae'n seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ar adeg ei ysgrifennu (gwanwyn/haf 2026).
Mae rhai o uchafbwyntiau allweddol 2025/26 yn cynnwys:
- Buddsoddiad gwerth £46.5 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd.
- Cynnal lefel y perygl llifogydd i 1,040 o eiddo oherwydd yr ystod eang o brosiectau cynnal a chadw cyfalaf a ariennir gan ein rhaglen gyfalaf.
- Gwnaed cynnydd sylweddol ar sawl cynllun mawr sydd ar wahanol gamau o gael eu datblygu a fydd yn ffurfio’r rhan fwyaf o’n gwariant cyfalaf yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r rhain yn cynnwys Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Aberteifi (Ceredigion) ac afon Ritec, Dinbych-y-pysgod (Sir Benfro).
- Parhau i weithio tuag at gyflawni mesurau o Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.
- Cyflawni gwelliannau i’n gwaith o flaenoriaethu ein rhaglenni cynnal a chadw asedau arferol drwy gyflwyno dull newydd sy'n seiliedig ar risg.
- Cyflwyno tri model darogan llifogydd newydd ar gyfer dalgylchoedd uchaf ac isaf afon Gwy ac ardal Tregatwg.
- Cyflwyno ein hymgyrch #ByddwchYnBarodAmLifogydd a digwyddiad rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd.
- Parhau i ddatblygu ein prosiect buddsoddi gwerth £6 miliwn i gyflwyno ein system telemetreg newydd, Tanio.
- Parhau â'n gwaith gyda'n partneriaid ar y rhaglen ar y cyd i ddiwygio diogelwch cronfeydd dŵr er mwyn datblygu set o gynigion newydd ar ddiogelwch cronfeydd dŵr.
- Cyflwyno'r adroddiad adran 18 diweddaraf sy'n ymdrin â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o 2023 i 2025 i Lywodraeth Cymru.
- Cyflwyno prosiect Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn nalgylch afon Elái.
Mae rhagor o wybodaeth am yr holl uchafbwyntiau hyn, ynghyd â chyflawniadau allweddol eraill, wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys manylion am ein cyflawniadau allweddol a’n hamcanion o safbwynt rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26. Ceir manylion ynddo am y gweithgareddau sy'n cyfrannu at reoli perygl llifogydd yng Nghymru ac mae hefyd yn rhoi sylw i fetrigau ac ystadegau allweddol sy'n dangos y lefel o ymdrech sydd ynghlwm wrth reoli perygl llifogydd ynghyd â graddfa'r her a wynebir.
Nid yw'r adroddiad hwn yn cwmpasu pob gweithgaredd neu faes gwasanaeth yn fanwl, a bwriedir iddo fod yn grynodeb o uchafbwyntiau blwyddyn ariannol 2025/26. Mae'r wybodaeth a'r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata a oedd ar gael ar adeg llunio'r crynodeb hwn (gwanwyn/haf 2026). Mae'r adroddiad hwn yn gyhoeddiad blynyddol cylchol ac mae'n rhan o'r adroddiad cynnydd nesaf ar Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru (sef ‘adroddiad adran 18’, sy'n ofynnol o dan adran 18 o’r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr).
Stormydd a llifogydd a brofwyd dros y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill 2025 – Mawrth 2026)
Bob blwyddyn, rydym yn cynllunio'r gwaith yr ydym am ei gyflawni er mwyn rheoli’r perygl o lifogydd yn rhagweithiol. Ar ben hynny, rhaid inni ymateb i ddigwyddiadau llifogydd pryd a ble maen nhw'n digwydd. Mae ein hymateb yn arwain at waith adweithiol i reoli'r digwyddiad llifogydd ar y pryd, ac efallai y bydd yn creu gwaith ychwanegol y mae angen i ni ei gyflawni i fynd i'r afael â'r problemau mwy hirdymor sy'n dod i'r amlwg. Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r digwyddiadau llifogydd a stormydd mwyaf nodedig y gwnaethom ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y rhai a achosodd aflonyddwch neu ddifrod sylweddol i gymunedau.
Rydym yn monitro ac yn ymateb i lifogydd pryd bynnag y maent yn digwydd - 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, bob dydd o’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys olrhain rhagolygon, cyhoeddi rhybuddion, sicrhau bod amddiffynfeydd rhag llifogydd ac asedau hydrometreg yn gweithredu'n iawn, postio gwybodaeth gyfredol ar ein gwefan, ymdrin â chyfweliadau ac ymholiadau'r cyfryngau, cefnogi sefydliadau eraill sy'n ymateb i ddigwyddiadau, ac atgyweirio difrod a achoswyd i amddiffynfeydd ar ôl stormydd. Pan fo digwyddiad yn codi, ceir effaith amlwg ar ein gallu i gyflawni gwaith arall a gynlluniwyd wrth i ni ymateb i'r heriau y mae pob digwyddiad tywydd difrifol yn ei gyflwyno, a hynny yn ystod y digwyddiadau hyn a'r cyfnod sy'n eu dilyn, wrth i ni ddelio â'r effeithiau a'r canlyniadau.
Stormydd a llifogydd 2025/26
Roedd hydref 2025 yn wlyb ac yn fwyn iawn, ac roedd tymereddau a glawiad yn uwch na’r cyfartaledd. Cofnododd Cymru ei degfed hydref gwlypaf ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn 1836, ac roedd glawiad 37% yn uwch na’r cyfartaledd. Parhaodd y patrwm ansefydlog hwn i mewn i'r gaeaf a phrofodd Cymru ddigwyddiad glaw trwm ar ôl digwyddiad glaw trwm, gan gynnig ychydig iawn o seibiant i ddalgylchoedd afonydd, unigolion mewn perygl, na staff CNC sy'n gyfrifol am ymateb i lifogydd. Amlygir perygl llifogydd uwch drwy’r Datganiad Cyfarwyddyd Llifogydd, sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol ar gyfer y pum niwrnod nesaf i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd datblygol. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy ein gwefan. Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, cafwyd perygl llifogydd uwch ar 140 o ddiwrnodau (effeithiau rhagolwg mân ac uwch) ac, o blith y rheini, cafwyd perygl llifogydd dwys ar 33 diwrnod (effeithiau rhagolwg sylweddol ac uwch). Mae nifer y dyddiau o berygl llifogydd uwch yn dangos pa mor brysur oedd y cyfnod hwn i'n staff a oedd yn ymwneud â’r gwaith o fonitro llifogydd, rhybuddio amdanynt, ac ymateb i ddigwyddiadau.
Mae'r matrics perygl llifogydd isod yn dangos y meini prawf ar gyfer nodi a fydd perygl llifogydd uwch neu ddwys, ac fe'i defnyddir i liwio’r Datganiad Cyfarwyddyd Llifogydd. Mae'r graff cod bar isod yn grynodeb o'r perygl o bob diwrnod.
Ffigur 1: Matrics perygl llifogydd sy'n dangos y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer rhagweld y rhagolygon llifogydd ar gyfer pob diwrnod trwy’r Datganiad Cyfarwyddyd Llifogydd. Mae pob diwrnod yn y graff cod bar uchod yn cyfateb i'r matrics hwn.
Ffigur 2: Cod bar yn dangos y rhagolwg perygl llifogydd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Mae llinell ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn, wedi'i lliwio yn ôl y perygl llifogydd a ragwelwyd.
Crynodeb o effeithiau posibl
Effaith leiaf posibl
- Llifogydd ynysig a bach yn effeithio ar diroedd a ffyrdd isel
- Distrych / tonnau ynysig ar bromenadau arfordirol
- Ychydig neu ddim tarfu ar deithio, ond arwynebau ffyrdd yn wlyb
Effaith fach
- Llifogydd lleol yn effeithio ar diroedd a ffyrdd
- Llifogydd yn effeithio ar eiddo unigol
- Tarfu ar deithio a safleoedd allweddol mewn cynlluniau llifogydd
Effaith sylweddol
- Llifogydd yn effeithio ar rannau o gymunedau
- Perygl posibl i fywyd a difrod i adeiladau / strwythurau
- Tarfu ar deithio a safleoedd allweddol mewn cynlluniau llifogydd
Effaith ddifrifol
- Perygl i fywyd, tarfu difrifol ar deithio
- Llifogydd eang yn effeithio ar gymunedau cyfan
- Colli neu darfu'n eang ar seilwaith
- Eiddo yn cael eu gwacáu ar raddfa fawr
Mae'r adran isod yn disgrifio'r stormydd a gafodd effeithiau yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026.
Storm heb ei henwi: 4 Tachwedd 2025
Arweiniodd glaw trwm iawn at ddigwyddiad mawr yn cael ei ddatgan gan Heddlu Dyfed–Powys ar gyfer rhannau o orllewin Cymru. Profodd eiddo lifogydd difrifol a arweiniodd at unigolion yn cael eu hachub gan y gwasanaeth tân yn Hendy-gwyn ar Daf, Caerfyrddin, Cydweli a Sanclêr, ac adroddwyd am lifogydd mewn eiddo hefyd ym Mhontargothi, Glanyfferi a Saundersfoot. Cyhoeddwyd rhybudd llifogydd difrifol ar gyfer parc gwyliau Kiln Park yn Ninbych-y-pysgod, lle bu’n rhaid achub nifer o westeion o’r parc. Roedd yna hefyd amhariad eang ar deithio ar ffyrdd a rheilffyrdd a chaewyd ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin ac ym Mhenfro. At ei gilydd, adroddwyd llifogydd yn 86 o eiddo preswyl ac wyth eiddo busnes ledled de Cymru a Cheredigion.
Storm Claudia: 14 i 15 Tachwedd 2025
Roedd Storm Claudia yn rhan o gyfnod hirach o dywydd ansefydlog a gwlyb iawn a wynebodd y DU yn hanner cyntaf mis Tachwedd, ac roedd tywydd gwlyb a mwyn iawn yn cael ei ddominyddu gan gyfres o systemau gwasgedd isel yr Iwerydd a ffryntiau tywydd.
Wedi'i henwi gan Gymdeithas Feteorolegol Sbaen, achosodd Storm Claudia law trwm a gwyntoedd cryfion yn Sbaen a Phortiwgal cyn cyrraedd y DU. Achosodd Storm Claudia aflonyddwch eang i deithwyr ledled Cymru a llifogydd difrifol yn Nhrefynwy o afon Mynwy, un o is-afonydd afon Gwy. Cyhoeddwyd digwyddiad mawr yn oriau mân fore Sadwrn 15 Tachwedd ar ôl i 50 i 75 mm o law ddisgyn ar draws ardaloedd helaeth o ddwyrain Cymru, a disgynnodd 75 i 100 mm o law yn lleol, gan arwain at lefelau uwch nag erioed yn afon Mynwy. Cofnododd medrydd glaw Tafalog yn nalgylch afon Gwy 120 mm o law mewn cyfnod o 28 awr.
Ffigur 3: Lefelau afonydd a gofnodwyd ar gyfer afon Mynwy ym Mhorth Mynwy o 14 Tachwedd 2025 i 16 Tachwedd 2025 yn ystod Storm Claudia.
Cyhoeddwyd sawl rhybudd llifogydd difrifol wrth i lefelau afonydd godi i ddeunaw gwaith y lefel arferol ac wrth i ddŵr llifogydd foddi canol pentref Ynysgynwraidd a chanol tref Trefynwy. Roedd angen ymateb amlasiantaeth i achub trigolion, a phrofwyd effeithiau llifogydd sylweddol yn y ddau leoliad. Cafwyd llifogydd mewn tua 250 o eiddo preswyl a busnes ledled Sir Fynwy, gan nodi'r llifogydd mwyaf difrifol ac eang o fewn cof. Mewn mannau eraill yng Nghymru, adroddwyd llifogydd mewn tua 50 o eiddo ar draws de-ddwyrain Cymru a Sir Ddinbych.
Ffigur 4: Llifogydd yng nghanol tref Trefynwy, 15 Tachwedd 2026. Llun a dynnwyd gan staff gweithredol CNC yn ymateb i'r llifogydd.
Ffigur 5: Canlyniadau llifogydd yn Homeforge House, Trefynwy. Llun wedi'i dynnu gan staff CNC.
Storm heb ei henwi: 1 Rhagfyr 2025
Arweiniodd glaw trwm a wnaeth syrthio ar dir a oedd eisoes yn orlawn at lifogydd eang ar ffyrdd ac ardaloedd isel yng ngorllewin Cymru, ac roedd Sir Benfro wedi'i heffeithio'n arbennig o wael. Caewyd ffyrdd o amgylch Sir Benfro oherwydd nad oedd modd teithio arnynt oherwydd llifddwr ac roedd maes gwyliau Kiln Park yn Ninbych-y-pysgod ar gau oherwydd llifogydd.
Storm Bram: 8 i 10 Rhagfyr 2025
Daeth Storm Bram â chyfnod estynedig o law a gwyntoedd cryfion ar draws Cymru a arweiniodd at darfu eang ar drafnidiaeth, toriadau pŵer, a lefelau afonydd uchel iawn. Er nad oedd cyfansymiau glawiad y digwyddiad hwn yn eithriadol, roedd pryderon ynghylch effeithiau posibl ar ffurf llifogydd oherwydd y cyfnod hir o dywydd ansefydlog yn ystod mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr, gan arwain at dir gwlyb a llifoedd uchel mewn afonydd. Roedd afonydd yng ngorllewin Cymru yn uchel iawn o ganlyniad i Storm Bram a gwnaethant achosi llifogydd i eiddo ynysig mewn ardaloedd megis Pontargothi yn Sir Gaerfyrddin.
Storm heb ei henwi: 14 i 15 Rhagfyr 2025
Profodd sawl ardal yng Nghymru law trwm a pharhaus ar ddalgylchoedd a oedd eisoes yn wlyb iawn. Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd tywydd oren mewn perthynas â glaw trwm a chyhoeddwyd nifer o rybuddion llifogydd a negeseuon i fod yn barod am lifogydd. Bu llifogydd yn eiddo yn ardal Llansawel yng Nghastell-nedd Port Talbot oherwydd dŵr wyneb ac roedd nifer o ffyrdd a rheilffyrdd wedi’u tarfu arnynt gan lifogydd.
Storm Chandra: 26 Ionawr 2026
Roedd tywydd mis Ionawr 2026 yn debyg i dywydd diwedd 2025, ac roedd yn ansefydlog ac yn wlyb iawn. Dilynodd Storm Chandra ddwy system gwasgedd isel arall, gan ddod â glaw trwm dros ardal eang. Roedd cyfansymiau glawiad hyd at 30 mm dros ardal eang a hyd at 80 mm ar dir uwch. Cafwyd adroddiadau am lifogydd mewn eiddo ynysig yn nalgylch afon Mynwy.
Deall perygl llifogydd a'i ddadansoddi
Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl ymdrechion i gynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yng Nghymru, a hynny'n bennaf drwy ein gweithgareddau dadansoddi hydrolegol a modelu perygl llifogydd. Mae hefyd yn cynnwys sut ydym yn cyfleu'r perygl llifogydd hwnnw i randdeiliaid drwy ein cynhyrchion mapio llifogydd a'n gwasanaethau gwefan. Ei ddiben yw cynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd, llywio pob un o'n gweithgareddau eraill, a'u cyfarwyddo, a hysbysu ein rhanddeiliaid am eu perygl llifogydd perthnasol.
Mae gennym bwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, o'n cronfeydd dŵr, ac o'r môr. Mae gennym hefyd rôl oruchwylio strategol gyda goruchwyliaeth gyffredinol dros yr holl faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn golygu cael dealltwriaeth gyson, ar draws Cymru gyfan, o bob ffynhonnell llifogydd ac erydu arfordirol, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw, er mwyn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yn ogystal â helpu i hysbysu'r awdurdodau rheoli risg a'r cyhoedd. Fel rhan o'n rôl trosolwg strategol, rydym yn gwneud gwaith mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer pob ffynhonnell o berygl llifogydd.
Beth sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru nawr?
Ym mis Ebrill 2025, mae 342,436 o eiddo yng Nghymru, nad ydynt wedi'u hamddiffyn, mewn perygl o lifogydd. Gall rhai eiddo fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell ac, felly, gan osgoi cyfrif ddwywaith neu deirgwaith yr eiddo sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog, mae tua 275,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd yng Nghymru. Mae tablau 1 i 3 isod yn dangos y dadansoddiad yn ôl ffynhonnell llifogydd, math o eiddo a band perygl llifogydd.
Rydym wedi gwneud gwelliannau i'n gwybodaeth a'n dealltwriaeth o berygl llifogydd sydd wedi arwain at newidiadau yn y ffordd rydym yn modelu ac yn cyfrifo eiddo sydd mewn perygl o lifogydd. Mae hyn, ynghyd â chynnwys carafannau sefydlog yn ein cyfrifiadau am y tro cyntaf, wedi arwain at gynnydd yn nifer yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd ers cynnal y diweddariad mawr diwethaf.
Mae'r tablau canlynol yn dangos dosbarthiad yr eiddo fesul lefel perygl a ffynhonnell, ar sail ffigurau cywir ym mis Ebrill 2025. Caiff yr wybodaeth am eiddo sydd mewn perygl ei diweddaru bob dwy flynedd ac mae’r diweddariad nesaf i fod yn haf 2027.
| Disgrifiad o’r perygl llifogydd | Eiddo preswyl sydd mewn perygl o lifogydd | Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd | Gwasanaethau allweddol* mewn perygl o lifogydd | Cyfanswm sydd mewn perygl o lifogydd |
|---|---|---|---|---|
| Afonydd - uchel | 25,126 | 3,074 | 787 | 28,987 |
| Afonydd - canolig | 17,172 | 2,528 | 486 | 20,186 |
| Afonydd - isel | 48,804 | 7,028 | 1,472 | 57,304 |
| Afonydd - cyfanswm | 91,102 | 12,630 | 2,745 | 106,477 |
Tabl 1: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo dibreswyl a'r gwasanaethau sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd yng Nghymru.
| Disgrifiad o’r perygl llifogydd | Eiddo preswyl sydd mewn perygl o lifogydd | Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd | Gwasanaethau allweddol* mewn perygl o lifogydd | Cyfanswm sydd mewn perygl o lifogydd |
|---|---|---|---|---|
| Môr - uchel | 56,759 | 5,913 | 1,194 | 63,866 |
| Môr - canolig | 13,638 | 2,097 | 458 | 16,193 |
| Môr - isel | 9,884 | 1,429 | 335 | 11,648 |
| Môr - cyfanswm | 80,281 | 9,439 | 1,987 | 91,707 |
Tabl 2: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo dibreswyl a'r gwasanaethau mewn perygl o lifogydd o'r môr yng Nghymru.
| Dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach | Eiddo preswyl sydd mewn perygl o lifogydd | Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd | Gwasanaethau allweddol* mewn perygl o lifogydd | Cyfanswm sydd mewn perygl o lifogydd |
|---|---|---|---|---|
| Uchel | 34,977 | 3,877 | 1,015 | 39,869 |
| Canolig | 18,057 | 2,188 | 533 | 20,778 |
| Isel | 74,042 | 7,562 | 2,001 | 83,605 |
| Cyfanswm | 127,076 | 13,627 | 3,549 | 144,252 |
Tabl 3: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo dibreswyl a'r gwasanaethau mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yng Nghymru.
* Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys mathau o eiddo sy'n gysylltiedig ag addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau, a gwasanaethau brys.
Mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill i helpu i wella ein dealltwriaeth a'n gwaith cyfathrebu am berygl llifogydd a disgrifir y rhain isod.
Beth sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru yn y dyfodol?
Ledled Cymru, rhagwelir y bydd dros 131,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd o'r môr a bron i 131,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd erbyn 2120. Mae hyn yn gynnydd o bron i 40,000 o eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o'r môr a chynnydd o dros 24,000 o eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd o'i gymharu â heddiw. Bydd yna hefyd dros 48,000 yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a nentydd bach.
Mae rhagamcanion hinsawdd yn awgrymu y byddwn yn gweld cynnydd yn amlder a dwyster digwyddiadau tywydd eithafol, gan gynnwys stormydd yn yr haf a chyfnodau gwlyb estynedig yn ystod y gaeaf. Bydd hyn yn cynyddu llifoedd brig yn ein hafonydd, a disgwylir y bydd hyn yn cynyddu'r risg o fflachlifogydd. Mae llifogydd o'r fath yn anodd iawn eu rhagolygu a'u rhagweld a gall fod yn heriol iawn eu rheoli.
Mae rhagamcanion hinsawdd hefyd yn awgrymu y bydd lefel y môr yn codi ym mhob senario allyriadau ac ym mhob lleoliad o amgylch y DU. Bydd ardaloedd arfordirol yn fwyfwy agored i effaith gynyddol y tonnau ac erydu arfordirol cyflymach sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd. Bydd yr effeithiau hyn nid yn unig yn effeithio ar gymunedau arfordirol sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd arfordirol, a seilwaith sydd wedi'i leoli ar yr arfordir, ond byddant hefyd yn effeithio ar y nifer o gynefinoedd naturiol pwysig a safleoedd treftadaeth sydd wedi'u lleoli ar hyd ein harfordir.
Wrth gwrs, nid yw rhagolygon newid hinsawdd yn sicr ac fel arfer cânt eu cyflwyno ag ystod o werthoedd. Rydym wedi cyfrifo perygl llifogydd yn y dyfodol yn seiliedig ar ganllawiau Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru, ac er symlrwydd rydym wedi defnyddio'r amcangyfrifon canolog o newid hinsawdd i gynhyrchu'r canlyniadau a ddangosir yma. Noder, ar gyfer ein modelu manwl ar gyfer cynlluniau perygl llifogydd, yn enwedig ar lefel leol, byddwn yn modelu amrywiaeth o senarios.
Mae'r tablau canlynol yn dangos lefel y perygl a'r ffynhonnell ledled Cymru pe na bai amddiffynfeydd yn bresennol ar gyfer 2025 a 2120. Mae'r data hwn yn gywir ym mis Ebrill 2025.
| Llifogydd o afonydd | Preswyl | Dibreswyl | Gwasanaethau allweddol* | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| 2025 | 91,102 | 12,630 | 2,745 | 106,477 |
| 2120 | 112,032 | 15,556 | 3,381 | 130,969 |
| Gwahaniaeth | +20,930 | +2,926 | +636 | +24,492 |
Mae Tabl 4 yn dangos y niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd ar gyfer 2025 a 2120, a rhagamcan o’r gwahaniaeth ar draws Cymru.
| Llifogydd o’r môr | Preswyl | Dibreswyl | Gwasanaethau allweddol* | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| 2025 | 80,281 | 9,439 | 1,987 | 91,707 |
| 2120 | 113,735 | 14,421 | 3,345 | 131,501 |
| Gwahaniaeth | +33,454 | +4,982 | +1,358 | +39,794 |
Mae Tabl 5 yn dangos y niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o’r môr ar gyfer 2025 a 2120, a rhagamcan o’r gwahaniaeth ar draws Cymru.
| Flooding from surface water and small watercourses | Residential | Non-residential | Key services* | Total |
|---|---|---|---|---|
| 2025 | 127,076 | 13,627 | 3,549 | 144,252 |
| 2120 | 170,661 | 17,413 | 4,679 | 192,753 |
| Difference | +43,585 | +3,786 | +1,130 | +48,501 |
Mae Tabl 6 yn dangos y niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a nentydd bach ar gyfer 2025 a 2120, a rhagamcan o'r gwahaniaeth ar draws Cymru.
* Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys mathau o eiddo sy'n gysylltiedig ag addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau, a gwasanaethau brys.
Prosiect rheoli data Asesu Perygl Llifogydd Cymru
Cyflwynodd rhaglen rheoli data Asesu Perygl Llifogydd Cymru welliannau wedi'u targedu eleni i wella ansawdd data a chynyddu cywirdeb sylfaen dystiolaeth perygl llifogydd CNC. Yn ogystal, dechreuwyd gwaith casglu gofynion ar gyfer disodli Asesu Perygl Llifogydd Cymru, a disgwylir i'r gwaith datblygu ddechrau yn 2027.
Diweddaru map llifogydd Cymru
Diweddarwyd map llifogydd Cymru ym mis Mai a mis Tachwedd 2025 ar gyfer afonydd, y môr a pharthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 yn unol â gofyniad Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru iddo gael ei ddiweddaru bob chwe mis. Mae nifer o leoliadau ledled Cymru wedi cael eu diweddaru er mwyn iddynt gynnwys gwybodaeth fodelu well, gan gynnwys dalgylch afon Rhondda, afon Lwyd, ac amrywiol afonydd yn ardal afon Clwyd.
Dull dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach
Rydym yn parhau i weithio i wella ein prosesau fel y gallwn ddiweddaru'r haen dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach ar y map llifogydd yn amlach. Mae'r gwelliannau'n golygu y gall awdurdodau rheoli risg sydd â data neu fodelau gwell gael y rhain wedi'u hymgorffori bellach, gan greu map llifogydd mwy cywir.
Lwfansau newid hinsawdd
Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru'r canllawiau newid hinsawdd i'w defnyddio mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ac at ddibenion rheoli datblygu. Cyhoeddwyd y lwfansau wedi'u diweddaru ar 20 Mawrth 2026 ac maent yn cynnwys lwfansau wedi'u diweddaru ar gyfer llifoedd afonydd brig a digwyddiadau glaw eithafol yn seiliedig ar allbynnau o Ragolygon Hinsawdd y DU (UKCP18). Mae'r canllawiau hefyd yn darparu gwerthoedd cynnydd yn lefel y môr o amgylch arfordir Cymru hyd at 2130.
Mae'r lwfansau diwygiedig yn dangos cynnydd disgwyliedig o rhwng 5% a 10% o ran llifoedd afon brig a chynnydd o 10% mewn lwfansau glawiad (yn seiliedig ar yr amcangyfrif canolog o newid hinsawdd) dros y ganrif nesaf. Mae'r newidiadau i’r cynnydd yn lefel y môr yn bennaf oherwydd bod degawd ychwanegol o lwfansau wedi'u hystyried yn y data.
Bydd cymhwyso'r lwfansau diwygiedig yn helpu awdurdodau rheoli risg, datblygwyr, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall effeithiau newid hinsawdd ar berygl llifogydd ledled Cymru yn well. A’r wybodaeth hon bellach wedi'i chyhoeddi, rydym yn ystyried y camau nesaf o ran diweddaru ein cynhyrchion map llifogydd.
Gwelliannau i waith modelu lleol
Rydym wedi datblygu nifer o welliannau i waith modelu lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau i wella modelu yn y lleoliadau canlynol: afon Elái ym Mhont-y-clun (Rhondda Cynon Taf), cydlifiad afon Hafren ac afon Efyrnwy (Powys), afon Gele (Sir Ddinbych), ac afon Ganol (Conwy).
Rheoli asedau perygl llifogydd
Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl weithgareddau sy'n ymwneud â rheoli ein hadeileddau neu asedau ar gyfer amddiffyn rhag y perygl o lifogydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwaith cynnal a chadw adeileddau sydd eisoes yn bodoli a deall eu cyflwr, rheoli data asedau, a chynllunio ar gyfer gofynion gwaith yn y dyfodol. Diben rheoli asedau yw sicrhau bod yr asedau llifogydd rydyn ni'n eu cynnal yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn helpu i amddiffyn cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, chwilio am gyfleoedd i leihau'r perygl o lifogydd drwy adeiladu asedau newydd, a sicrhau bod ein hasedau'n barod ac yn gallu perfformio fel y disgwylir pan fydd llifogydd.
Mae'r ffordd rydym yn rheoli ein hasedau wedi'i nodi yn y ddogfen sy’n cynnwys ein Cynllun Rheoli Asedau Strategol ac fe'i darlunnir gan y ddelwedd isod.
Ffigur 6: Darlun sy'n dangos cylch oes ased.
Cynllun – sut rydym yn cynllunio ein gwaith rheoli asedau
Cynlluniau rheoli asedau
Ar ôl cyhoeddi ein Cynllun Rheoli Asedau Strategol ym mis Mawrth 2025, rydym wedi gwneud cynnydd pellach eleni fel rhan o brosiect ehangach y System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd i alinio'r ffordd rydym yn rheoli ein hasedau â safonau'r diwydiant.
Mae'r flwyddyn hon wedi cynnwys datblygu cynlluniau rheoli asedau digidol, a fydd yn cael eu lansio yn ddiweddarach yn 2026. Y cynlluniau hyn fydd yr offeryn cynllunio ar gyfer ein hasedau rheoli perygl llifogydd presennol. Rydym wedi datblygu'r cynlluniau hyn gan ddefnyddio meddalwedd Power BI, gan eu galluogi i ddefnyddio data asedau byw a sicrhau bod yr wybodaeth yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd hyn yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau amserol a chyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli ein hasedau rheoli perygl llifogydd.
Cynllunio tymor canolig
Bydd gwybodaeth am asedau a gedwir mewn cynlluniau rheoli asedau digidol yn bwydo i’n cynllunio tymor canolig ar gyfer gwaith cynnal a chadw a ariennir gan gyfalaf. Yn ogystal â rhagolygon y flwyddyn ariannol gyfredol, mae ein prosiectau cyfalaf mwy sylweddol yn darparu rhagolygon ar gyfer y flwyddyn i ddod, sy'n ein galluogi i asesu ein gofynion ariannu yn y dyfodol. Mae'r broses yn dechrau trwy lunio cynlluniau tymor canolig sy'n seiliedig ar le, sef rhestr o brosiectau sydd eu hangen. Mae'r ffactorau sy'n sbarduno'r prosiectau hyn yn amrywiol iawn ac yn cynnwys perygl llifogydd wedi'i fodelu, methiant asedau, hanes llifogydd, iechyd a diogelwch, a dyletswyddau statudol. Unwaith y bydd adnoddau rheoli prosiectau penodol wedi'u dyrannu i brosiectau gydag achos busnes sydd wrthi'n cael ei ddatblygu, maent yn bwydo i'r cynllun tymor canolog cenedlaethol, sy'n amlinellu'r cynlluniau sylweddol a gyflawnir gan CNC dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae'r cynllun tymor canolig presennol yn cynnwys lleoliadau megis Porthmadog, Dinbych-y-pysgod, Aberteifi, a Strategaeth Dalgylch Afon Taf.
Model cynllunio sy’n seiliedig ar risg
Yn y blynyddoedd blaenorol, rydym wedi datblygu offeryn i'n helpu i ganolbwyntio ein cynlluniau cynnal a chadw arferol a ariennir gan refeniw yn ôl pa ardaloedd sydd fwyaf tebygol o brofi llifogydd. Rydym yn galw'r offeryn hwn yn fodel dyrannu refeniw ar sail risg.
Eleni fe wnaethon ni barhau i ymgorffori a gwella’r model dyrannu refeniw ar sail risg drwy gynnal gwaith dadansoddi ar rannau allweddol o'r model seiliedig ar risg. Roedd hyn yn adeiladu ar waith rydym eisoes wedi'i wneud i ddeall materion data allweddol, a phrosesau a thybiaethau a ddefnyddir gan y model, i dargedu gwelliannau. Mae gwaith dadansoddi pellach yn parhau a bwriedir rhoi’r rhain ar waith yn yr asesiad nesaf o’r model dyrannu refeniw ar sail risg ar gyfer blwyddyn ariannol 2027/28.
Mae hyn yn gwella ein cynllunio sy'n seiliedig ar risg drwy wella'r data a ddefnyddiwn i benderfynu ar feysydd cynnal a chadw targed.
Mae’r model dyrannu refeniw ar sail risg yn defnyddio ein cronfa ddata gwybodaeth asedau AMX Flood. Nod y gwaith hwn yw blaenoriaethu gwaith cynnal a chadw asedau arferol a dyrannu cyllid mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol ar sail risg. Mae'n ystyried ffactorau sy’n cynnwys lefel y risg, pa mor hanfodol yw ymgymryd â rhai camau gweithredu, economeg pob cam gweithredu, ac a oes gyrwyr eraill ar gyfer ein gwaith, gan gynnwys ymrwymiadau cyfreithiol.
Drwy gydol y flwyddyn hon, rydym hefyd wedi parhau i wella'r canllawiau, y safonau a'r manylebau mewn perthynas â'r gwaith hwn. Wrth i ni gasglu mwy o ddata o gyflawni ein gwaith cynnal a chadw, rydym yn gwella'r dystiolaeth a'r tybiaethau a wneir gan y model yn barhaus.
Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i sicrhau bod ein gwaith cynnal a chadw yn cael ei flaenoriaethu ar sail risg, gan sicrhau ein bod yn darparu'r gwerth gorau am arian drwy ein gwaith wrth sicrhau ar yr un pryd bod rhwymedigaethau cynnal a chadw yn cael eu cyflawni.
Adeiladu asedau newydd – lleihau’r perygl i gymunedau
Mae buddsoddi yn ein hasedau perygl llifogydd presennol yn hanfodol er mwyn cynnal y safon o amddiffyniad maen nhw'n ei rhoi ar hyn o bryd i'r cymunedau sy'n elwa ohonyn nhw. Fel arfer, mae angen y buddsoddiad i ymestyn neu gyflawni oes ddylunio ddisgwyliedig yr asedau ac fel arfer mae'n cynnwys atgyweiriadau a gwaith adnewyddu sylweddol i adeileddau presennol.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â sawl cynllun mawr a oedd ar gamau gwahanol o’u datblygiad yn ystod 2025/26. Bydd y cynlluniau hyn yn ffurfio mwyafrif ein gwariant cyfalaf yn y blynyddoedd i ddod ac yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec, Dinbych-y-pysgod (Sir Benfro), a Chynllun Strategol Rheoli Llifogydd Dalgylch Afon Taf (Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd). Yn y tymor hir, disgwylir i'r rhain fod o fudd i dros 3,000 o eiddo pan fyddant wedi'u cwblhau.
Astudiaeth achos – cynllun lliniaru llifogydd yn Chapel Reen, Gwastadeddau Gwent, Sir Fynwy
Mae gollyngfa Chapel Reen yn Allteuryn o fewn Gwastadeddau Cil-y-coed, tua 5 km i'r dwyrain o Gasnewydd. Mae'n cario Chapel Reen o'i dalgylch afonol ar Wastadeddau Cil-y-coed i aber afon Hafren. Mae'r ased yn lleihau'r perygl o lifogydd i Allteuryn drwy gyfyngu ar symudiad dŵr aberol o aber Hafren i'r system ffosydd draenio. Mae'r ased yn rhan o'r argloddiau amddiffyn rhag y môr sy'n ymestyn ar hyd Gwastadeddau Cil-y-coed yn y lleoliad hwn. Mae'r safle'n arbennig o sensitif gan fod ganddo lawer o ddynodiadau amgylcheddol ac mae wedi'i leoli ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Mae gollyngfa Chapel Reen wrth ymyl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Gwlyptiroedd Casnewydd, a SoDdGA Trefonnen ac Allteuryn. Mae yna amrywiaeth o blanhigion dyfrol ac infertebratau sy'n gysylltiedig â ffosydd a ffosydd draenio’r system ddraenio, gan gynnwys llinad di-wraidd, dyfrllys blewynnaidd, chwilod dŵr arian fawr a chardwenyn meinlais. Byddai mynediad dŵr halen neu atal draenio ffosydd i aber afon Hafren yn cael effaith negyddol ar rai o nodweddion dynodedig y SoDdGAau hyn.
Roedd pryderon difrifol, pe bai cyflwr y waliau cynnal yn dirywio ymhellach, y gallai'r sianel gael ei blocio'n llwyr, gan atal llifoedd afonol rhag cael eu rhyddhau o ddalgylch Chapel Reen ar Wastadeddau Cil-y-coed a chynyddu'r perygl o lifogydd i eiddo lleol. Roedd gan CNC bryderon y gallai'r waliau cynnal a'r wal troi tonnau fod wedi cwympo ar unrhyw adeg.
Cynhaliwyd gwaith brys tymor byr yn wreiddiol, ond cynlluniwyd a gosodwyd datrysiad mwy parhaol yn ystod 2025/26 i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy'r ased ac i amddiffyn y SoDdGAau cyfagos rhag mynediad y llanw. Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweiriadau adeileddol sylweddol i'r ased, gosod datrysiad codi mecanyddol o bell, a fflapiau llanw sy'n gyfeillgar i bysgod er mwyn cydymffurfio â rheoliadau yn ymwneud â llyswennod.
Ffigur 7: Llun yn dangos system gollyngfa Chapel Reen yn cael ei hadeiladu.
Gweithredu asedau rheoli perygl llifogydd
Mae llawer o'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd yn adeileddau peirianyddol sefydlog sy'n cyflawni eu swyddogaeth heb yr angen i gael eu gweithredu'n weithredol. Mae enghreifftiau’n cynnwys argloddiau uchel a waliau concrit, er y gallai fod angen rhai gwiriadau gweithredol o hyd ar gyfer yr asedau hyn.
Pan fydd angen ymyriad mecanyddol a/neu drydanol penodol, neu ymyriad ffisegol penodol, er mwyn i ased rheoli perygl llifogydd weithredu, neu pan fydd ased yn cael ei weithredu yn ystod digwyddiad llifogydd, ein staff neu gontractwyr fframwaith fydd yn cyflawni'r gweithrediadau hynny. Mae enghreifftiau'n cynnwys defnyddio neu gau llifddorau, gweithredu gorsaf bwmpio, neu osod lefel ar lifddor loc.
Yn ogystal â gweithredu'r asedau hyn yn ystod digwyddiadau neu ymarferion llifogydd, rydym yn cynnal gwiriadau gweithredol cyfnodol. Mae gwiriadau gweithredol yn archwilio'r adeiledd yn weledol i sicrhau ei fod yn barod i weithredu fel y'i cynlluniwyd pe bai llifogydd. Bydd y gwiriadau hyn yn cynnwys ymgymryd â thasgau cynnal a chadw bach nad oes angen offer arbenigol, deunyddiau, na thrwyddedau penodol ar eu cyfer.
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i ni wneud gwaith cynnal a chadw ar sianeli afonydd naturiol i sicrhau bod dŵr yn parhau i lifo pan fydd peidio â gwneud hynny yn achosi perygl llifogydd. Enghraifft o hyn fyddai pe bai coeden wedi cwympo yn lleihau cynhwysedd sianel cynllun lliniaru llifogydd yn sylweddol am ei bod yn rhwystr. Eleni fe wnaethon ni gyhoeddi erthygl i esbonio'r dull a gymerwn o reoli perygl llifogydd ledled Cymru, yn enwedig o ran cael gwared ar rwystrau naturiol ac eitemau eraill megis sbwriel, mewn afonydd.
Asedau mecanyddol, trydanol, offerynnol, rheoli ac awtomeiddio (MEICA)
Mae asedau a gynhelir gan staff MEICA wedi'u gwasgaru ledled Cymru ac yn cwmpasu ystod eang o asedau perygl llifogydd sylfaenol a swyddogaethau ategol o fewn CNC i ymgymryd â rolau allweddol. Mae'r asedau hyn yn amrywio o seilwaith trydanol a mecanyddol ym meysydd hydrometreg a thelemetreg sy'n allweddol wrth gasglu data, i sgriniau brigau a weithredir o bell sy'n cael eu gweithredu pan fydd afonydd yn cyrraedd trothwyon penodol o ran lefel.
Mae MEICA yn gyfrifol am gynnal a chadw 25 o orsafoedd pwmpio, 353 o safleoedd hydrometreg, a 121 o ollyngfeydd afonol ac arfordirol. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o gamerâu monitro asedau o bell ac mae'r rhwydwaith bellach yn cynnal 63 o gamerâu ledled Cymru.
Eleni cwblhawyd 1,936 o dasgau cynnal a chadw ar draws yr holl asedau. Mae hyn yn cynnwys 1,512 o weithiau cynnal a chadw a drefnwyd ar asedau a 424 o weithiau adweithiol. Mae gweithiau adweithiol yn cynnwys y rhai a sbardunwyd gan ymateb i ddigwyddiad llifogydd trwy rota galwadau MEICA.
Mae cost adnewyddu asedau pwmpio heb ei gynllunio yn cynyddu gwariant cyfalaf yn sylweddol. Mae nifer o asedau pwmpio rheoli perygl llifogydd CNC yn cyrraedd diwedd eu hoes ac mae argaeledd rhannau sbâr yn lleihau. Rydym wedi dechrau arfarniad cynhwysfawr o ddibynadwyedd gorsafoedd pwmpio i lywio cais buddsoddi cyfalaf ar gyfer rhaglen atgyweirio, uwchraddio ac ailosod. Bydd hyn yn cynnwys manylion am opsiynau cynnal a chadw llai, cyfleoedd monitro yn seiliedig ar gyflwr, ac arbed carbon o ganlyniad i systemau pwmpio effeithlon.
Rydym wedi parhau i weithio'n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod safonau peirianneg MEICA yn unol ag arferion gorau'r diwydiant. Eleni, fe wnaethon ni gydweithio ar Safonau Mecanyddol a Thrydanol y Diwydiant Dŵr a rhyngwynebu â'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.
Perfformiad asedau yn ystod stormydd a llifogydd difrifol
Yn ystod Storm Claudia (14 i 15 Tachwedd 2025), bu llifogydd difrifol yn Nhrefynwy o afon Mynwy, sef un o is-afonydd afon Gwy. Cyhoeddwyd digwyddiad mawr yn oriau mân fore Sadwrn 15 Tachwedd ar ôl i 50 i 75 mm o law ddisgyn ar draws ardaloedd helaeth o ddwyrain Cymru, a disgynnodd 75 i 100 mm o law yn lleol, gan arwain at lefelau uwch nag erioed yn afon Mynwy.
Cyhoeddwyd rhybuddion llifogydd difrifol wrth i lefelau afonydd godi i ddeunaw gwaith y lefelau arferol ac wrth i ddŵr llifogydd orlifo Forge Road, Overmonnow, Rockfield a chanol tref Trefynwy, yn ogystal â phentref Ynysgynwraidd. Roedd angen ymateb amlasiantaeth i achub trigolion, a chafwyd effeithiau llifogydd sylweddol yn y lleoliadau hyn.
Roedd y digwyddiad storm yn fwy na'r lefel amddiffyn rhag llifogydd a gynlluniwyd ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd ac felly cafodd amddiffynfeydd yn Nhrefynwy eu gorlethu yn y pen draw. Canfu asesiad ar ôl y digwyddiad fod cyflwr ein hamddiffynfeydd yn addas i berfformio yn ystod stormydd pellach, ac eithrio rhywfaint o ddifrod bach i arwyneb arglawdd Forge Road a difrod bach tebyg i arglawdd o ganlyniad i Nant Scud yn gorlifo. Gwnaed atgyweiriadau i ollyngfa ffos y dref yn Overmonnow i sicrhau ei bod yn gweithio’n gywir.
Cafwyd llifogydd mewn tua 250 o eiddo preswyl a busnes ledled Sir Fynwy yn ystod y digwyddiad, sef y llifogydd mwyaf difrifol ac eang mewn cof byw yn yr ardal. Yn anffodus, yn yr achos hwn, roedd y cyfaint sylweddol o ddŵr a oedd yn llifo drwy'r dalgylch yn gorlethu amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mewn llawer o leoliadau eraill, fodd bynnag, mae ein rhwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd a gynhelir gan CNC wedi darparu amddiffyniad parhaus i dros 90,000 o eiddo.
Gweithredu ein prif safleoedd ymateb
Yn ystod 2025/26, fe wnaethom gyhoeddi rhybuddion rhag llifogydd ac ymatebion gweithredu lefel trothwy a sbardunodd weithrediad ein hasedau rheoli perygl llifogydd mewn safleoedd ymateb sylfaenol, sy'n cynnwys:
- Fflodiard Abergwili, Sir Gaerfyrddin
- Llanrwst
- Dolgellau
- Nant Barrog, Llanfair Talhaearn
- Afon Alun, Yr Orsedd
- Afon Dyfrdwy, Almere
- Fairbourne
- Llifddor Trefynwy
- Llifddor Crucywel
- Rhwystr Llifogydd Caerllion
Gwnaethom hefyd waith paratoadol mewn safleoedd allweddol i sicrhau bod sgriniau brigau yn glir a bod amddiffynfeydd yn barod i'w defnyddio.
Cynnal a chadw ac adnewyddu – cynnal y warchodaeth bresennol
Rydym yn cynnal dros 3,900 o asedau rheoli perygl llifogydd, sy'n cynnwys amddiffynfeydd uchel tua 455 km o hyd ledled Cymru. Mae cynnal a chadw ein hasedau presennol yn cynnwys nifer o weithgareddau allweddol:
- Rhaglen archwilio gweledol i asesu a chadarnhau cyflwr asedau
- Gwaith cynnal a chadw gweithredol arferol
- Adnewyddu asedau ar sail ad hoc pan fo angen atgyweiriadau penodol i ddod â'r ased yn ôl i'w gyflwr bwriadedig
Rhaglen archwilio gweledol
Fel rhan o'n gwiriadau o gyflwr asedau, mae gennym gyfundrefn archwilio asedau wedi'i rhaglennu ymlaen llaw i roi lefel sicrwydd i ni y gall ein hasedau berfformio fel y bwriadwyd.
Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025/26, fe wnaethom gwblhau 15,165 o archwiliadau arferol o asedau. Rydym yn blaenoriaethu archwiliadau o asedau ar sail risg, gan sicrhau bod ein hasedau blaenoriaeth uchaf yn cael eu gwirio'n rheolaidd. Ar ôl i'r risg gael ei hasesu, caiff yr asedau eu harchwilio bob 6, 12, 24, 36 neu 60 mis.
Yn ogystal, cynhaliwyd 311 o archwiliadau ar ôl digwyddiadau ac ad hoc yn dilyn stormydd. Yn dilyn storm, mae gennym broses ddiffiniedig i benderfynu pa archwiliadau ôl-ddigwyddiad sy'n ofynnol. Ar ôl llifogydd Storm Claudia ym mis Tachwedd 2025, archwiliwyd 217 o asedau.
Canfu ein harchwiliadau fod 97.16% o'n hasedau llifogydd mewn systemau perygl uchel o lifogydd yn bodloni neu’n uwch na’r cyflwr gofynnol y mae angen iddynt fodloni er mwyn gallu cyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol.
Adnewyddu asedau
Mae asedau nad ydynt yn bodloni’r cyflwr gofynnol wedi'u hamserlennu ar gyfer gwaith atgyweirio neu wella ac mae gwaith monitro’n cael ei gynnal ar gynnydd, risgiau a phroblemau. Adroddir am ddiffygion asedau drwy ein cronfa ddata gwybodaeth asedau ‘AMX Flood’.
Bydd angen cyllid cyfalaf ar gyfer diffygion sydd angen atgyweiriadau mawr a/neu gostus a byddant yn cael eu hychwanegu at gynllun tymor canolig rhaglen cynnal a chadw gyfalaf CNC.
Cwblheir atgyweiriadau llai, mwy arferol ochr yn ochr â'r rhaglen cynnal a chadw refeniw.
Yn ystod 2025/26, cynhaliom lefel y perygl llifogydd i 1,040 o eiddo oherwydd yr ystod eang o brosiectau cynnal a chadw cyfalaf a ariennir gan ein rhaglen gyfalaf.
Gwaith cynnal a chadw gweithredol arferol
Mae ein rhaglen cynnal a chadw asedau refeniw ar gyfer asedau rheoli perygl llifogydd yn cynnwys gweithgareddau megis:
- Torri glaswellt ar amddiffynfeydd rhag llifogydd
- Gwiriadau gweithredol o adeileddau a sianeli
- Cynnal a chadw mewn perthynas â gallu cludo afonydd
- Gwaith coed i amddiffyn cyfanrwydd amddiffynfeydd a chynnal gallu cludo afonydd
Mae llawer o'r gweithgareddau hyn yn cael eu hailadrodd ar adegau penodol i gynnal yr asedau yn eu cyflwr gofynnol yn ôl y perygl llifogydd y maent yn helpu i'w reoli.
Yn 2025/26, fe wnaethom ymgymryd â 18,531 o gamau gweithredu unigol fel rhan o'n rhaglen cynnal a chadw arferol. Roedd hyn yn cynnwys bron i 9,000 awr o dorri glaswellt, bron i 6,000 awr o reoli coed a llystyfiant, dros 11,000 awr o wiriadau gweledol a chamau cynnal a chadw ar raddfa fach, a bron i 3,000 awr o reoli llystyfiant estron goresgynnol.
Eleni rydym wedi cyfrannu'n weithredol at Amcan Llesiant 1 CNC: Mae natur yn gwella, trwy leihau faint o wair sy'n cael ei dorri ar ein hasedau rheoli perygl llifogydd yn ystod ‘Mai Di-dor’. Rydym wedi lleihau faint o wair sy'n cael ei dorri o leiaf 70% ar draws yr holl asedau rheoli perygl llifogydd, ac wedi asesu risg asedau pan farnwyd bod y perygl o lifogydd wedi gorbwyso'r budd ecolegol. Pan fu hyn yn wir, rydym wedi nodi mesurau lliniaru i’w wrthbwyso.
Rydym hefyd yn gweithio ar ddulliau amgen o leihau faint o wair sy’n cael ei dorri a gweithio gyda byd natur drwy nodi safleoedd peilot asedau allweddol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn ystod 2026.
Ochr yn ochr â'n gwaith cylch oes asedau a ddisgrifiwyd uchod, mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill i helpu i wella’r ffordd y caiff asedau eu rheoli o fewn CNC.
Cronfa ddata gwybodaeth ar gyfer rheoli asedau – Asset Management eXpert (AMX Flood)
Rydym wedi ymgymryd â gwaith eleni i uwchraddio ein cronfa ddata gwybodaeth ar gyfer rheoli asedau i'r fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael. Mae'r feddalwedd wedi'i diweddaru wedi'i phrofi gan ein defnyddwyr a byddwn yn symud i'r fersiwn hon yn ystod haf 2026. Fel rhan o'r diweddariad hwn, fe wnaethom hefyd brofi pa mor ddiogel yw'r system yn erbyn ymosodiadau seiber posibl a gwneud gwelliannau i sicrhau bod y system yn ddiogel.
Rheoli asedau – monitro o bell
Systemau Tirfesur Llywio Byd-eang
Eleni rydym wedi buddsoddi yn y Systemau Arolwg Llywio Byd-eang diweddaraf i ddisodli offer tirfesur annibynadwy sy'n heneiddio. Mae'r offer hyn yn galluogi mesuriadau i gael eu cymryd o hyd at 20 metr i ffwrdd ar adeileddau sy'n anodd eu cyrraedd neu'n anniogel. Mae cyflwyno'r offer hyn wedi helpu i wella diogelwch ein staff a'r data rydyn ni'n ei gasglu, sy'n gwella'r data rydyn ni'n ei ddal yn ein cronfa ddata rheoli asedau.
Monitro o bell gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng a chamerâu
Rydym yn defnyddio teledu cylch cyfyng a chamerâu i ddarparu gallu monitro o bell ledled Cymru, gan gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau gweithredol, rheoli asedau, ac ymateb i ddigwyddiadau, gan leihau'r angen i ymweld â safleoedd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael am gyfnod hirach yn ystod ymatebion i ddigwyddiadau yn ogystal â helpu i leihau ein hallyriadau carbon.
Ar hyn o bryd, mae gennym 60 o gamerâu sefydlog ledled Cymru, ochr yn ochr â thair uned gludadwy y gellir eu defnyddio'n hyblyg pan fo angen. Mae 40 o'r camerâu sefydlog bellach yn heneiddio. Mae adolygiad o'r asedau hyn wedi nodi cyfleoedd i foderneiddio'r rhwydwaith drwy ddisodli systemau hŷn â thechnoleg fwy modern. Eleni, gosodwyd 11 system newydd, gan gynyddu cwmpas y rhwydwaith a gwella gwydnwch ar draws safleoedd gweithredol allweddol.
Cronfa Ddata Asedau Genedlaethol
Mae data asedau a ddarparwyd gan y 22 o Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol yng Nghymru ers 2017 a chofnodion CNC o asedau llifogydd gyda’i gilydd yn ffurfio'r Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Genedlaethol. Caiff y data a ddarperir ei rannu’n gyhoeddus fel data agored ar ein tudalennau cyhoeddus ein hunain megis Gweld strwythurau amddiffyn llifogydd yn agos i chi (Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol) a gall defnyddwyr terfynol chwilio yn ôl cyfeiriad a dod o hyd i asedau sy’n agos atynt. Yn ystod 2025, roedd 800 o ymweliadau â'r dudalen hon.
Rydym yn cyhoeddi lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd bob chwe mis, yn unol â chylch diweddaru Map Llifogydd Cymru, fel bod unrhyw newidiadau a gofnodwn yn ein cronfa ddata asedau yn cael eu hadlewyrchu ar y Mapiau Llifogydd a Risg Erydu Arfordirol a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Yn 2025/26, ni chafwyd unrhyw ddiweddariadau pellach gan Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol.
Yn ystod y flwyddyn hon, fe ddechreuon ni drafodaethau am y Gronfa Ddata Asedau Genedlaethol â Phwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru i godi ymwybyddiaeth ac i hyrwyddo trafodaeth bellach am gyfeiriad posibl y gronfa hon yn y dyfodol.
Diogelwch cronfeydd dŵr
There are over 400 large raised reservoirs registered in Wales with a capacity of 10,000 cubic metres of water, or more, held above natural ground level and stored behind a dam, embankment or other structure. Mae dros 400 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofrestru yng Nghymru sydd â chynhwysedd o 10,000 metr ciwbig o ddŵr, neu fwy, a gedwir uwchben lefel naturiol y ddaear a’i storio y tu ôl i argae, arglawdd neu adeiledd arall. Gall methiant yr adeileddau hyn achosi llifogydd, difrod, llygredd a cholli cyfleustodau, a gall achosi perygl i fywyd.
Ni yw'r awdurdod gorfodi ar gyfer diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y rhai sy’n berchen arnynt, yn eu rheoli neu’n eu gweithredu yn cadw at Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac yn cydymffurfio â hi er mwyn amddiffyn pobl ac eiddo rhag gollyngiadau dŵr heb eu rheoli. Mae'r gyfraith hon yn gosod y safonau gofynnol i sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr, yn bennaf i sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn penodi ac yn gweithredu ar gyngor peirianwyr sifil cymwys arbenigol.
Rydym hefyd yn rheoli portffolio o gronfeydd dŵr at ddibenion perygl llifogydd a chadwraeth ac yn rheoli cronfeydd dŵr ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru. Disgrifir ein gweithgareddau allweddol yn y ddwy rôl hyn isod.
Ein rôl reoleiddio
Y gofrestr o gyforgronfeydd dŵr mawr
Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, roedd 403 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi'u cofnodi ar y gofrestr gyhoeddus. Dangosir nifer a statws y cronfeydd dŵr hyn dros y pum mlynedd diwethaf yn y tabl isod.
| Cam | 2021 | 2022 | 2023 | 2024 | 2025 | 2026 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Yn cael eu hadeiladu | 8 | 12 | 8 | 8 | 7 | 7 |
| Ar waith | 363 | 384 | 388 | 393 | 397 | 395 |
| Wedi'u gadael i fynd yn segur | 0 | 0 | 1 | 1 | 1 | 1 |
| Cyfanswm | 371 | 396 | 397 | 402 | 405 | 403 |
Tabl 7: Nifer a statws y cyforgronfeydd dŵr mawr wedi'u cofrestru, fel y'u cofnodwyd ar 31 Mawrth dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae'r cyfrifoldeb am ddiogelwch cronfeydd dŵr ac am gydymffurfedd cyfreithiol yn disgyn ar yr ymgymerwyr, sydd fel a ganlyn yng Nghymru:
- Mae 35% yn gwmnïau dŵr statudol
- Mae 26% yn dirfeddianwyr preifat
- Mae 21% yn cael eu rheoli gan gyrff a ariennir yn gyhoeddus:
- awdurdodau lleol (10%)
- Cyfoeth Naturiol Cymru (9%)
- awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cadw (2%)
- Mae 18% yn cael eu rheoli gan sefydliadau eraill
Gall yr ymgymerwyr ddefnyddio cronfeydd dŵr ar gyfer llawer o ddefnyddiau gwahanol yn ogystal â’u diben traddodiadol o gyflenwi dŵr, gan gynnwys cynhyrchu pŵer trydan dŵr, cadwraeth naturiol a threftadaeth, hamdden, rheoleiddio afonydd, rheoli llifogydd ac amwynder cyffredinol.
Ffigur 8: Nifer y cronfeydd dŵr sy’n cydymffurfio ac sydd heb gydymffurfio ym mhob prif grŵp ymgymerwyr a gofnodwyd ar ddiwedd y cyfnod ar 31 Mawrth 2026.
Mae'r gostyngiad mewn perfformiad o ran yr angen am archwilio wedi digwydd oherwydd amseriad archwiliadau mewn cronfeydd dŵr amddifad lle nad oes perchennog. Rydym wedi cofnodi hyn fel diffyg cydymffurfio ond wedi cymryd camau i sicrhau bod yr archwiliadau gofynnol yn cael eu cwblhau.
Priodolir diffyg cydymffurfedd i 47 o gronfeydd dŵr (12%), a weithredir gan 34 o ymgymerwyr ar wahân (y perchnogion neu'r gweithredwyr) gydag un neu fwy o achosion o dorri amodau heb eu datrys. I grynhoi:
- Fe wnaethon ni lunio 35 o fapiau llifogydd cronfeydd dŵr newydd neu ddiwygiedig yn ystod y flwyddyn ac rydym yn bwriadu llunio mwy yn ystod 2026.
- Rydym wedi parhau â'n gwaith i ddynodi cronfeydd dŵr yn ôl y perygl maen nhw'n ei beri i unigolion. Dynodwyd wyth cronfa ddŵr yn gronfeydd dŵr risg uchel y credwn y gallai llifogydd o'r gronfa ddŵr, a achosir gan argae sy’n methu, beryglu bywyd.
- Rydym wedi monitro’r gwaith o adeiladu neu addasu saith cronfa ddŵr ac wedi ceisio cydymffurfedd â'r rheolau ar gyfer archwilio, goruchwylio, cynnal a chadw, monitro, a chadw cofnodion ar draws 285 o gronfeydd dŵr risg uchel.
- Rydym wedi darparu canllawiau ar sut i lunio cynlluniau llifogydd brys ar gyfer cronfeydd dŵr yn wirfoddol. Bu cynnydd yn y nifer o’r rhain a luniwyd a bellach mae 88% o gronfeydd dŵr risg uchel yn meddu ar gynllun ysgrifenedig.
- Rydym wedi parhau i gefnogi rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio diogelwch cronfeydd dŵr, er mwyn helpu i lunio rheoleiddio diogelwch yn ymwneud â chronfeydd dŵr yn y dyfodol.
Adrodd am ddigwyddiadau cronfa ddŵr ar ôl iddynt ddigwydd
Yn ystod y cyfnod adrodd, fe gofnodwyd tri digwyddiad mewn cyforgronfeydd dŵr mawr. Roedd y digwyddiadau’n golygu bod angen cymryd rhai mesurau rhagofalus. Ymatebodd yr ymgymerwyr i'r digwyddiadau hyn, ac nid oedd angen i ni ymyrryd gan ddefnyddio pwerau brys mewn unrhyw un ohonynt.
Rydym wedi gweithio gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil ac Asiantaeth yr Amgylchedd i gynhyrchu cronfa ddata ar-lein o ddigwyddiadau mewn cronfeydd dŵr. Diben hyn yw darparu gwybodaeth well i berchnogion cronfeydd dŵr a pheirianwyr am y mathau o ddigwyddiadau sy'n digwydd, y diffygion a geir, a'r gwersi a ddysgwyd ohonynt. Cyhoeddwyd hon y llynedd ac fe'i defnyddiwyd i gofnodi pob digwyddiad y dylid adrodd amdano hyd yn hyn.
Cronfeydd dŵr o dan reolaeth CNC
Rydym yn rheoli 38 o gronfeydd dŵr yng Nghymru. Mae’r cronfeydd dŵr hyn yn cael eu harchwilio a’u goruchwylio gan beirianwyr sifil cymwysedig, ac rydym yn cynnal rhaglen waith i fynd i’r afael â’r argymhellion sy’n cael eu gwneud ganddynt. Mae'r tabl isod yn dangos pwrpas a dynodiad risg cronfeydd dŵr a reolir gan CNC.
| Diben | Risg uchel | Ddim yn risg uchel | Risg heb ei phennu | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| Rheoli perygl llifogydd | 11 | 2 | 0 | 13 |
| Cadwraeth (Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol) | 3 | 5 | 0 | 8 |
| Ystad Goetir Llywodraeth Cymru | 12 | 4 | 1 | 17 |
| Cyfanswm | 26 | 11 | 1 | 38 |
Tabl 8: Diben a dynodiad cronfeydd dŵr a reolir gan CNC.
Am ragor o wybodaeth, darllennwch ein adroddiadau dwy flynedd – Diogelwch Cronfeydd Dŵr.
Cynghori cynllunwyr a gwaith trwyddedu a gorfodi
Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â'r holl gyngor yn ôl disgresiwn a chyngor statudol yn ymwneud â pherygl llifogydd yn ein rôl fel ymgynghorai o fewn y broses gynllunio, a'n gwaith rheoleiddio o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (2016). Y nod yw rhoi cyngor effeithiol er mwyn dylanwadu ar ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a'i reoli, gan atal mwy o bobl ac eiddo rhag bod yn agored i berygl cynyddol o lifogydd. Drwy ein gwaith trwyddedu, rydym yn rheoleiddio gweithgareddau ar neu ger prif afonydd a'n hasedau i sicrhau nad ydynt yn achosi cynnydd o ran y perygl llifogydd nac yn achosi niwed amgylcheddol. Rydym hefyd yn ymgymryd â gwaith gorfodi pan all gweithgareddau perygl llifogydd achosi neu waethygu'r perygl llifogydd neu arwain at niwed amgylcheddol.
Gweithredu Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 diwygiedig
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi cynllunio diwygiedig, sef Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (TAN15) ar 31 Mawrth 2025. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o’i weithredu, rydym wedi datblygu canllawiau mewnol i gefnogi ein staff i ddeall y newidiadau a chymhwyso'r polisi diwygiedig yn briodol.
Rydym hefyd wedi diweddaru canllawiau allanol ar senarios gorlifo, torri a rhwystro i gyd-fynd â’r gofynion TAN diwygiedig.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu cwestiynau cyffredin TAN15, sydd wedi'u paratoi i fynd i'r afael â'r cwestiynau a ofynnir amlaf o safbwynt gweithdrefnol a pholisi. Fe wnaethon ni gynghori Llywodraeth Cymru ar y mathau o ymholiadau a godir fel arfer a darparu gwybodaeth dechnegol yn ôl yr angen i lywio'r ymatebion. Byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddiwygio a mireinio'r cwestiynau cyffredin yn y dyfodol.
Cyngor ar gynllunio datblygiadau
Fel ymgynghorai statudol i'r broses gynllunio, rydym yn darparu cyngor ar berygl llifogydd i ddatblygwyr ac awdurdodau cynllunio ar gyfer cynigion datblygu sydd wedi'u lleoli mewn parthau llifogydd 2 a 3 neu barth a amddiffynnir TAN15 ar y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar gyfer afonydd a'r môr. Defnyddir y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn bennaf fel offeryn sgrinio i ddeall ble y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae hefyd yn rhoi syniad o sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar raddfa llifogydd dros y ganrif nesaf. Am rhagor o wybodaeth, ewch i'n disgrifiad llawn o'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cyngor technegol ar berygl llifogydd wedi helpu i atal datblygiadau amhriodol rhag cael eu cymeradwyo mewn lleoliadau lle byddai'r perygl o lifogydd yn anodd ei reoli. Pan fydd datblygiad wedi cael caniatâd er gwaethaf y perygl o lifogydd, rydym wedi rhoi cyngor ar y risgiau a'r canlyniadau fel y gellir ystyried mesurau atal llifogydd a mesurau gwytnwch llifogydd a'u hymgorffori yn y datblygiad i helpu i leihau'r perygl nawr ac yn y dyfodol.
Yn ystod 2025/26, fe wnaethom gael ac ymateb i tua 2,700 o ymgynghoriadau cynllunio pan nodwyd perygl llifogydd fel ystyriaeth gynllunio berthnasol, gan ddarparu cyngor technegol ar y perygl llifogydd a'r canlyniadau. Efallai y byddwn yn cael nifer o ymgynghoriadau sy'n ymwneud â'r un cais cynllunio a gall cynigion fod wedi'u lleoli o fewn sawl parth llifogydd.
O'r ymgynghoriadau a ddaeth i law, roedd tua 2,000 yn ymwneud â chynigion ym Mharth Llifogydd 2, neu'n rhannol o fewn y parth hwnnw, 2,500 ym Mharth Llifogydd 3, neu'n rhannol o fewn y parth hwnnw, a thua 800 ym mharth a amddiffynnir TAN15, neu'n rhannol o fewn y parth hwnnw.
Rheoleiddio gweithgareddau perygl llifogydd
Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau a gyflawnir ar brif afonydd, neu gerllaw iddynt, ar adeileddau amddiffyn rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt (gan gynnwys amddiffynfeydd morol), neu o fewn gorlifdir, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Rydym yn gwneud hyn drwy roi trwydded gweithgarwch perygl llifogydd er mwyn sicrhau nad yw'r gweithgaredd yn achosi unrhyw gynnydd yn y perygl llifogydd, yn cael effaith niweidiol ar ddraenio tir yn yr ardal, neu'n achosi difrod amgylcheddol i'r amgylchedd, pysgodfeydd neu fywyd gwyllt lleol. Mae rhai o’r trwyddedau a roddwn yn cwmpasu nifer o weithgareddau perygl llifogydd o dan yr un drwydded lle cânt eu cynnal yn yr un lleoliad a lle mae ganddynt yr un nodweddion safle. Mae hyn yn ddarostyngedig i rai amodau a chyfyngiadau. Gellir cyflawni rhai gweithgareddau perygl llifogydd heb drwydded ond mae’n bosibl y bydd angen cofrestru gweithgareddau o’r fath gyda ni fel rhai sy’n ‘esempt’ rhag y gofyniad i gael trwydded bwrpasol.
Dros flwyddyn ariannol 2025/26, gwnaethom ddyroddi 190 o drwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd ledled Cymru, a chofrestrwyd 61 o esemptiadau.
Yn ystod 2025/26, fe wnaethom ddatblygu datganiad rheoleiddio ar gyfer gosod offer monitro mewn afonydd ar raddfa fach. Mae hyn yn caniatáu gosod a gweithredu offer monitro ar raddfa fach o fewn prif afon heb yr angen am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd (yn amodol ar rai amodau). Defnyddir y math o offer a gwmpesir gan y datganiad rheoleiddio yn gyffredinol at ddibenion monitro amgylcheddol ac mae defnyddio datganiad rheoleiddio yn cydnabod y perygl llifogydd neu amgylcheddol isel iawn a achosir gan y gweithgarwch hwn.
Rydym wrthi'n nodi a ellir datblygu datganiadau rheoleiddio ychwanegol ar gyfer gweithgareddau perygl isel eraill y mae angen trwydded gweithgarwch perygl llifogydd ar eu cyfer ar hyn o bryd.
Camau gorfodi
Rydym yn cyflawni gwaith gorfodi perygl llifogydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ei reoli'n effeithiol ac er mwyn cefnogi mesurau i warchod yr amgylchedd. Os na cheisir ein cyngor rheoleiddio, neu os caiff ei anwybyddu wrth wneud gwaith ar brif afonydd neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol.
Yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, mae ein gweithgarwch gorfodi yn sicrhau y gallwn gynnal mynediad i seilwaith amddiffynfeydd rhag llifogydd / y môr ac yn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw a gwella pwysig. Gallwn hefyd ddefnyddio camau gorfodi i unioni gwaith anghyfreithlon a niweidiol neu waith a allai fod yn niweidiol, a allai fod wedi’i wneud yn groes i amodau a nodir mewn trwydded gweithgarwch perygl llifogydd, neu heb drwydded gweithgarwch perygl llifogydd ofynnol. Mae enghreifftiau’n cynnwys difrod i amddiffynfeydd rhag llifogydd ac adeileddau rheoli, cael gwared ar rwystrau sy’n effeithio ar lif o fewn afonydd, gan gynyddu’r perygl o lifogydd o bosibl, a gwaith sydd wedi achosi niwed i’r amgylchedd.
Yn ystod 2025/26, fe wnaethom gofrestru 62 o achosion gorfodi newydd ledled Cymru. Roedd 61 o achosion yn gofyn am gamau gorfodi mewn perthynas â gweithgareddau perygl llifogydd heb eu trwyddedu ac roedd un yn ymwneud ag achos o beidio â chydymffurfio â'r drwydded gweithgarwch perygl llifogydd. Roedd camau gorfodi yn cynnwys defnyddio hysbysiadau adfer, llythyrau rhybuddio a llythyrau cynghori. Gwnaethom gwblhau camau gorfodi lle bu canlyniadau llwyddiannus mewn perthynas â 46 o achosion yn ystod y cyfnod hwn.
Astudiaeth achos – gwaith heb ei drwyddedu, Clwb Criced Radur, Caerdydd
Ymatebodd ein swyddogion i adroddiadau am sylfeini concrit a thua 400 metr o wal gwaith bloc yn cael ei hadeiladu yn union wrth ymyl, ac yn gyfochrog ag, afon Taf yng Nghaerdydd. Roedd y gwaith, a wnaed heb drwydded gweithgarwch perygl llifogydd, mewn ymateb i lifogydd mawr diweddar yn yr ardal a'r difrod dilynol i'r clwb a'r meysydd criced.
Roedd gennym bryderon difrifol ynghylch effaith bosibl y wal ar y perygl o lifogydd yn yr ardal leol ehangach, gan y gallai rwystro a dargyfeirio llifoedd llifogydd ar draws y safle ac i fannau eraill, gan gynnwys ein cynllun lliniaru llifogydd ar lan arall afon Taf.
Fe wnaethon ni gyflwyno hysbysiad adfer i atal gwaith pellach ar unwaith tra oedden ni'n ymchwilio ymhellach. Cynhaliwyd ymweliadau â’r safle a thrafodaethau yn cynnwys y clwb criced, cynghorwyr lleol, a'n tîm ni. Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd y byddai hysbysiad adfer pellach yn cael ei gyhoeddi i unioni'r sefyllfa.
Cyflwynwyd hysbysiad adfer i wneud un o’r canlynol:
- darparu asesiad canlyniadau llifogydd i ddangos nad oedd y wal yn achosi effeithiau ar drydydd partïon
- tynnu'r wal yn ei chyfanrwydd ac adfer yr ardal yr effeithiwyd arni i lefelau gwreiddiol y ddaear
Penderfynodd y clwb criced dynnu'r wal i lawr oherwydd y risgiau a'r costau sy'n gysylltiedig â pharatoi asesiad o ganlyniadau llifogydd. Rydym wedi parhau i weithio gyda'r clwb criced i drafod opsiynau i amddiffyn y caeau criced a'r clwb.
Ffigur 9: Wal cerrig bloc a adeiladwyd yng Nghlwb Criced Radur yng Nghaerdydd heb drwydded gweithgarwch perygl llifogydd.
Cyflenwi gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg
Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg sy'n casglu, dadansoddi ac adrodd data sy'n sail i amrediad o wasanaethau rheoli llifogydd a dŵr ar draws CNC. Mae hyn yn cynnwys gwaith modelu a mapio perygl llifogydd, gwaith arfarnu a dylunio cynlluniau perygl llifogydd (safonau diogelu), diogelwch cronfeydd dŵr, darogan a rhybuddio am lifogydd, rheoleiddio afonydd, a chynnal asesiadau ôl-lifogydd o safbwynt swm y glawiad, lefelau afonydd a gofnodwyd, a'u difrifoldeb (e.e. yn ôl trefn hanesyddol neu'r cyfnod rhwng digwyddiadau).
Yn ogystal â chasglu, prosesu ac archifo'r data hwn ar gyfer CNC, mae'r maes gwaith hwn hefyd yn adrodd am y data ac yn ei rannu â chwsmeriaid mewnol ac allanol drwy ymholiadau penodol am ddata, trosglwyddo data, a darparu gwasanaethau digidol ar ein gwefan, gan gynnwys ein gwasanaeth data byw ar gyfer lefelau afonydd, glawiad a’r môr.
Y rhwydwaith hydrometrig
Mae'r rhwydwaith hydrometrig ledled Cymru yn cynnwys 254 o orsafoedd mesur glaw, 341 o orsafoedd monitro lefel neu lif afonydd, a 135 o orsafoedd monitro lefel dŵr daear. Mae Ffigur X yn fap sy'n dangos lleoliadau'r holl orsafoedd monitro ar draws ein rhwydwaith hydrometreg a thelemetreg yng Nghymru. Ychydig iawn o newidiadau a fu i'r rhwydwaith hydrometrig yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i bwysau adnoddau ar wasanaethau hydrometreg a thelemetreg yng Nghymru. Mae unrhyw ychwanegiadau at y rhwydwaith wedi'u cyfyngu i osodiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol i gefnogi gofynion monitro statudol.
Ffigur 10: Safleoedd hydrometrig ledled Cymru.
Prosiect adolygu’r rhwydwaith hydrometrig
Rydym wedi ymgymryd â gwaith i adolygu costau a staffio gwasanaethau hydrometreg a thelemetreg. Mae model gweithgareddau rheoli rhwydwaith wedi'i greu i helpu i baru adnoddau â newidiadau yn y rhwydwaith hydrometrig. Mae timau o fewn maes hydrometreg a thelemetreg bellach yn ychwanegu gwybodaeth fanwl am orsafoedd at y model. Ar ôl ei gwblhau, caiff ei ddefnyddio fel offeryn gweithredol i helpu i gydbwyso adnoddau a llwyth gwaith.
Tanio – prosiect ailosod telemetreg
Rydym wedi gwneud cynnydd gyda'n prosiect buddsoddi gwerth £6 miliwn i gyflwyno ein system telemetreg newydd, Tanio. Mae'r prosiect hwn yn hanfodol i CNC barhau i gasglu a rhannu data bron mewn amser real ar afonydd a glawiad, yn ogystal â gwybodaeth am beirianwaith gweithredol. Mae'r wybodaeth hon yn cefnogi ymatebion i lifogydd a rheoli dŵr, gan gynnwys sychder, ac fe'i rhennir â phartneriaid fel Asiantaeth yr Amgylchedd a chwmnïau dŵr.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi disodli llinellau ffôn y Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog sy'n heneiddio â dulliau cyfathrebu symudol, rhyngrwyd a lloeren modern. Mae ein porth data telemetreg newydd yn fyw ac mae pob cwsmer allanol wedi newid i’w ddefnyddio. Rydym wedi cwblhau ffurfweddu'r system, profi defnyddwyr, a hyfforddiant. Bydd Tanio yn mynd yn fyw ddechrau 2026/27.
Map trywydd hydroleg llifogydd y DU
Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r Map Trywydd Hydroleg Llifogydd (Saesneg yn unig) a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Eleni rydym wedi archwilio pa ddeilliannau o’r map trywydd y dylai CNC eu blaenoriaethu ac wedi nodi tri maes allweddol yn ymwneud â’r thema data i ganolbwyntio ein hymdrechion arnynt dros y blynyddoedd i ddod.
Y tu hwnt i'n gwaith mewnol, rydym wedi parhau â'n cydweithrediad â'n partneriaid ledled y DU i ddatblygu fframwaith i feincnodi modelau hydrolegol. Rhagwelir y bydd datrysiad sy'n seiliedig ar TG, ynghyd â phrosesau newid busnes cysylltiedig, yn cael ei ddarparu yn y blynyddoedd i ddod. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â'r gymuned academaidd, ar lefel leol a hefyd mewn gweithdy cenedlaethol, i helpu i ddatblygu rhaglen ymchwil hydroleg llifogydd ar gyfer y dyfodol.
Astudiaeth achos – hydrometreg a thelemetreg yng Nghymru
Hydrometreg yw mesur cyfansoddion ffisegol y cylchred hydrolegol – glawiad, lefel a llif dŵr, a lefel dŵr daear – a thelemetreg yw'r broses o anfon y data a fesurir o'r synwyryddion o bell i system ganolog lle gellir ei fonitro, ei ddadansoddi a’i storio.
Yn CNC, mae'r gwasanaeth hydrometreg a thelemetreg yn cael ei ddarparu gan dri thîm sy'n cynnwys cyfanswm o tua 35 o staff ledled Cymru. Mae dau o'r timau (Gogledd a De) yn gweithredu ac yn cynnal mwy na 700 o orsafoedd monitro maes sy'n ffurfio'r rhwydwaith hydrometrig. Mae hyn yn cynnwys gorsafoedd lefel dŵr a llif, gorsafoedd glawiad, a gorsafoedd monitro dŵr daear. Er mwyn sicrhau bod gorsafoedd monitro yn gweithredu'n gywir, mae'r timau hyn yn trwsio ac yn disodli synwyryddion ac unedau telemetreg diffygiol, yn cynnal adeiladau ac adeileddau gorsafoedd monitro megis coredau, ac yn cynnal mesuriadau graddnodi gan ddefnyddio sgiliau ac offer arbenigol. Y trydydd tîm yw'r Tîm Hydrometreg a Thelemetreg Cenedlaethol, sy'n rheoli systemau cenedlaethol, gan gynnwys telemetreg, yr archif hydrometrig, a gwefan lefelau afonydd. Mae'r tîm hefyd yn arwain ar reoli data, archifo, dosbarthu, a strategaeth a chynllunio hirdymor.
Data hydrometrig yw sylfaen llawer o'r gwaith sy'n seiliedig ar ddŵr a wneir gan CNC, gan gynnwys rheoli adnoddau dŵr, rheoli perygl llifogydd a risgiau arfordirol, a gweithgareddau rheoli amgylcheddol sy'n ymwneud â physgodfeydd, bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr.
Rydym yn defnyddio mesuryddion glaw awtomatig i fonitro glawiad, a synwyryddion gwasgedd ac unedau radar i fesur lefel y dŵr, sy'n ein galluogi i gyfrifo llif. Mae'r allbwn data o'r synwyryddion hyn yn cael ei drosglwyddo i'n systemau canolog gan ddefnyddio ein system telemetreg genedlaethol newydd.
Ffigur 11: Mae gan y cwch hwn a reolir gan radio, sydd bron i ddau fetr o hyd, uned system leoli fyd-eang wedi'i gosod ar y brig, a synhwyrydd uwchsonig wedi'i osod oddi tano. Fe'i defnyddir i fesur llifoedd isel a llifoedd llifogydd mewn afonydd o bob maint.
Cyn gynted ag y bydd y data yn cyrraedd ein gweinyddion canolog, mae staff profiadol yn defnyddio meddalwedd arbenigol i brosesu'r data, gan ei droi'n wybodaeth amgylcheddol ddefnyddiol sydd ar gael bron mewn amser real i gefnogi gwasanaethau rheoli perygl llifogydd hanfodol megis darogan llifogydd a rhybuddio a hysbysu am lifogydd, yn ogystal â gweithgareddau rheoli adnoddau dŵr megis rheoli sychder ac adrodd amdano.
Mae cadw'r gwasanaeth cyfan i weithredu yn hwylus yn ymdrech tîm enfawr. Mae staff maes yn gweithio i sicrhau bod gorsafoedd monitro ledled Cymru yn cael eu rheoli a'u cynnal mewn cyflwr da ac mae staff telemetreg cenedlaethol yn monitro’r llif data i'n systemau canolog yn barhaus, gan nodi a thrwsio problemau'n gynnar er mwyn osgoi colli data yn ddiangen, a sicrhau bod data ar gael bron mewn amser real i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hynny a ddarperir gan CNC ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae data glawiad, lefelau afonydd a’r môr ar gael ar wefan CNC.
Ffigur 12: Mae gwasanaeth gwe data glawiad, lefelau afonydd a’r môr CNC yn darparu data lefel dŵr a glawiad 15 munud, o fwy na 400 o orsafoedd monitro, i gwsmeriaid drwy wefan CNC.
Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion
Drwy'r maes gwaith hwn y darperir ein gwasanaeth darogan llifogydd a'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i'r cyhoedd ac i bartneriaid proffesiynol. Ei ddiben yw darparu rhybuddion a gwybodaeth effeithiol i bobl sydd mewn perygl o lifogydd, gan eu galluogi i gymryd camau uniongyrchol i warchod bywyd ac eiddo cyn i lifogydd ddigwydd.
Mae'n cynnwys canfod a rhagweld llifogydd mewn amser real yn y cyfnod cyn ac yn ystod digwyddiadau llifogydd, a chyhoeddi rhybuddion llifogydd i'r rhai sydd mewn perygl uniongyrchol. Mae hefyd yn cynnwys darparu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf a'r rhybuddion sydd mewn grym drwy ein gwefan, Floodline, a'n porth data byw.
Mae ein timau hefyd yn sicrhau bod data, systemau, gweithdrefnau gweithredol, hyfforddiant staff dyletswydd a gwaith rheoli rotas dyletswydd i gyd ar waith – ac wedi'u profi a'u gwella – fel eu bod yn barod ac yn gwbl effeithiol mewn digwyddiadau llifogydd. Darperir y gwasanaethau drwy nifer o rotâu swyddogion arbenigol ar ddyletswydd, gan ddefnyddio staff o'n timau. Mae ein swyddogion ar ddyletswydd ar alwad 24/7 bob diwrnod o'r flwyddyn, ac maent yn barod i ymateb i lifogydd posibl a llifogydd gwirioneddol ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26
Ar draws Cymru, mae 48,800 o eiddo wedi'u cofrestru'n llawn i gael ein rhybuddion llifogydd. Yn gyfan gwbl, gwnaethom ddyrannu 700 o hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd, 158 o rybuddion llifogydd a phum rhybudd llifogydd difrifol yn ystod 2025/26 mewn ymateb i’r perygl o lifogydd. Mae Adran 1 o'r adroddiad hwn yn disgrifio'r prif ddigwyddiadau llifogydd yn ystod y flwyddyn a'r effeithiau cysylltiedig.
Ffigur 13: Nifer y rhybuddion llifogydd a’r hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd a gyhoeddwyd yn ystod 2025/26.
Gwelliannau i'r gwasanaeth darogan llifogydd
Yn 2024/25, fe wnaethom gryfhau ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd arfordirol drwy gyflwyno Model Arfordirol Cymru ar gyfer rhagolygon arfordirol. Yn ystod y flwyddyn hon, rydym wedi ymgymryd â gwaith i ymgorffori ymhellach y newidiadau i'n rhagolygon arfordirol, gan gynnwys gweithio i ddiwygio trothwyon rhagolygon ar gyfer nifer o leoliadau o ganlyniad i gynlluniau gwella awdurdodau lleol.
Yn 2025/26, fe wnaethom ddatblygu a rhoi tri model darogan llifogydd afonol newydd ar waith ar gyfer rhannau uchaf ac isaf afon Gwy ac ardal Tregatwg. Mae'r modelau newydd hyn yn ychwanegu 13 lleoliad darogan llifogydd newydd at y gwasanaeth ac, rhyngddynt, maent yn cwmpasu wyth ardal rhybuddion llifogydd ar wahân a dros 2,200 o eiddo. Mae'r map isod yn dangos y lleoliadau darogan llifogydd newydd mewn coch, ochr yn ochr â'r dalgylchoedd lle ceir darogan llifogydd ar hyn o bryd.
Ffigur 14: Lleoliadau darogan llifogydd 2026.
Rydym hefyd wedi dechrau gweithio ar brosiectau a fydd yn gwella ein galluoedd i ddarogan llifogydd afonol. Bydd y prosiectau hyn yn ein helpu i ddeall ansicrwydd mewn rhagolygon yn well a gwella cywirdeb y rhagolygon llifogydd y gallwn eu darparu. Bydd y prosiectau hyn yn cael eu cyflawni yn y blynyddoedd nesaf.
Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd i Gymru
Aeth ein Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd i Gymru yn fyw ar 17 Gorffennaf 2024. Ers ei lansio, rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y gwasanaeth yn ddibynadwy, yn hawdd ei ddefnyddio, ac yn parhau i ddiwallu anghenion unigolion sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hyn wedi cynnwys y canlynol:
- Rydym wedi darparu gwasanaeth cyfrif ar-lein, gan ei gwneud yn haws i unigolion fewngofnodi'n ddiogel a rheoli eu gwybodaeth am rybuddion llifogydd, gan eu helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhybuddion.
- Rydym yn cryfhau sut rydym yn casglu ac yn defnyddio adborth gan unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, fel y gallwn barhau i'w wella yn seiliedig ar brofiadau go iawn.
- Rydym yn gwella sut mae ein rhybuddion llifogydd yn cael eu rhannu fel y gallant gyrraedd mwy o unigolion drwy wasanaethau dibynadwy megis Google, Apple ac apiau tywydd, gan helpu unigolion i gael mynediad at wybodaeth bwysig yn gyflym.
- Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwaith cynnal a gwella'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, fel ei fod yn parhau i fod yn ddibynadwy pan fydd ei angen mwyaf.
Fframwaith Rhybuddion Cyffredin y DU
Mae CNC wedi bod yn rhan o ddatblygu'r Fframwaith Rhybuddion Cyffredin, wedi'i lywio gan wersi a ddysgwyd o’r llifogydd yng Nghymru yn 2020. Mae'r Fframwaith Rhybuddion Cyffredin yn dwyn ynghyd asiantaethau llifogydd y DU (Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon), y Swyddfa Dywydd a'r Ganolfan Rhagolygon Llifogydd i alinio egwyddorion, cryfhau cydweithio, datrys problemau, lliniaru risgiau, a chyflwyno un llais mewn perthynas â negeseuon tywydd a llifogydd.
Mae'r bartneriaeth yn canolbwyntio ar wella cysondeb mewn methodoleg a negeseuon rhybuddio, gan wneud gwybodaeth yn haws ei rhannu a'i hailddefnyddio, a chael ffocws sylfaenol ar y cyd ar achub bywydau.
Mae blaenoriaethau cychwynnol yn cynnwys:
- Matricsau perygl: creu dulliau a therminoleg gyson ar gyfer cyfleu perygl llifogydd, gyda matrics newydd wedi'i gynllunio ar gyfer hydref 2026.
Protocol Rhybuddio Cyffredin: mabwysiadu safon a rennir ar gyfer rhybuddion llifogydd a rhybuddion llifogydd difrifol i gynyddu cyrhaeddiad trwy lwyfannau trydydd parti (e.e. Google). Mae CNC wedi ymgymryd â gwaith datblygu ar systemau fel y gallwn ddarparu data rhybuddio byw sy'n cydymffurfio â'r Protocol Rhybuddio Cyffredin i drydydd partïon, gan gefnogi dull unedig o ran rhybuddion llifogydd yn y DU.
Gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol
Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'n cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i'r bobl hynny sydd mewn perygl o lifogydd o safbwynt y camau ymarferol y gallant eu cymryd i baratoi yn well cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Rydym yn darparu'r cyngor hwn yn ddigidol drwy ein gwefan ac yn uniongyrchol i gymunedau, gan gynnwys drwy ddarparu templedi cynlluniau llifogydd er mwyn iddynt eu defnyddio, a hwyluso digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a'r arferion gorau. Mae ein rôl alluogi yn bwysig i bartneriaid allu gwneud eu gwaith ymgysylltu lleol eu hunain â chymunedau gan ddefnyddio ein hadnoddau digidol ac argraffu, yn ogystal â dod ynghyd ag arweinwyr cymunedol.
Negeseuon cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein holl asedau cyfryngau cymdeithasol ynghylch llifogydd yn flynyddol, ac yn creu deunyddiau newydd i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y cyngor sydd ei angen ar y cyhoedd i ymateb i berygl llifogydd. Mae'r asedau hyn yn cael eu rhannu â Grŵp Cyfathrebu Fforymau Gwydnwch Lleol Llywodraeth Cymru. Eleni, fe wnaethon ni hefyd weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gydlunio asedau cyfryngau cymdeithasol i'w defnyddio gan awdurdodau lleol i ehangu rhybuddion llifogydd CNC, yn ogystal â'u teilwra ar gyfer gwybodaeth leol – fel bod negeseuon perygl llifogydd yn gyson ledled Cymru ac yn cael eu cyflwyno gan ffynonellau dibynadwy.
Cynlluniau llifogydd cymunedol
Mae cynlluniau llifogydd cymunedol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a'r gymuned. Ym mis Ebrill 2025, rydym yn helpu i gynnal 65 o gynlluniau llifogydd cymunedol sydd ar waith ledled Cymru i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn gwasanaethu'r cymunedau sy'n berchen arnynt ac yn eu defnyddio. Y cynlluniau hyn yw'r rhai a adroddwyd i CNC naill ai gan y cyhoedd neu bartneriaid ac y mae gennym gysylltiadau cyfredol ar eu cyfer; efallai fod eraill nad ydym yn ymwybodol ohonynt. Mae gan CNC rôl gefnogol mewn perthynas â’r cynlluniau hyn ynghyd â sefydliadau eraill sy'n cynnig cyngor a chyfarwyddyd. Yn ystod 2025/26, fe wnaethom gynnal archwiliad o gynlluniau llifogydd cymunedol i wirio pa gynlluniau sy'n dal i fod yn weithredol. Mae hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar gymunedau sydd mewn sefyllfa i ddatblygu a chynnal cynllun llifogydd cymunedol. Mae hefyd yn tynnu sylw at leoliadau'r cymunedau hynny fel y gallwn gynnig cymorth iddynt a’u cyfeirio at wirfoddolwyr eraill ar gyfer rhwydweithio a chyngor (a'u diweddaru am newyddion a digwyddiadau sy'n berthnasol iddynt).
Digwyddiadau’r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd
Fe wnaethon ni gynnal digwyddiad rhwydwaith i wirfoddolwyr llifogydd cymunedol yn Llandudno, a roddodd gyfle inni gysylltu â'r cyhoedd a phartneriaid wyneb yn wyneb yng ngogledd Cymru. Cymaint â phosibl, fe wnaethom ddyblygu digwyddiadau’r flwyddyn flaenorol (a gynhaliwyd yn ne a chanolbarth Cymru), er mwyn galluogi cymunedau yng ngogledd Cymru i gynyddu eu dealltwriaeth o sut i adfer ar ôl llifogydd. Cafwyd cyflwyniadau byr gan bartneriaid proffesiynol yn egluro eu rolau a'r cymorth a gynigir yn y broses adfer ar ôl llifogydd. At ei gilydd, cynrychiolwyd 12 o gymunedau gan 13 o aelodau'r gymuned. Mynychodd 36 o bartneriaid proffesiynol, gan gyfrannu at y cynllunio a'r trafodaethau ar y diwrnod.
Ffigur 15: Llun o'r digwyddiad ymgysylltu â gwirfoddolwyr llifogydd yn Llandudno, 12 Mawrth 2026.
Cyngor llifogydd ar gael mewn ieithoedd eraill
Mae un o bob saith eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd. Er mwyn helpu i gadw unigolion, cartrefi a busnesau'n ddiogel, rydym yn gweithio i wneud ein cyngor ar berygl llifogydd yn hygyrch i fwy o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Dyma pam rydym wedi cwblhau cynllun peilot ynghylch cyngor perygl llifogydd mewn sawl iaith yng Nghanol De Cymru yn ddiweddar.
Caerdydd yw'r ddinas fwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru, ac mae rhanbarth Canol De Cymru yn gartref i lawer o unigolion nad ydynt yn siarad Saesneg na Chymraeg fel iaith gyntaf. Yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, fe wnaethom nodi'r deg iaith a siaredir amlaf yn yr ardal. Mae gennym ni gyngor ar berygl llifogydd a thempledi cynllun llifogydd personol ar gael nawr yn yr ieithoedd canlynol: Arabeg, Pwyleg, Bengaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Sbaeneg, Wrdw, Eidaleg, Malaialam a Ffarsi.
Gobeithiwn y bydd yr adnoddau newydd hyn yn helpu unigolion i ddeall sut i baratoi ar gyfer llifogydd, a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Wythnos ymgyrch llifogydd #ByddwchYnBarodAmLifogydd
Fe wnaethon ni gynnal ein hymgyrch ymwybyddiaeth #ByddwchYnBarodAmLifogydd flynyddol rhwng 6 a 10 Hydref 2025. Canolbwyntiodd gweithgarwch eleni ar gefnogi unigolion sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd i baratoi ar gyfer y gaeaf, gyda ffocws o'r newydd ar newid hinsawdd a gwydnwch cymunedol.
Lansiwyd yr ymgyrch yn agoriad swyddogol Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Stryd Stephenson yng Nghasnewydd, gan ddarparu llwyfan proffil uchel i ddechrau'r wythnos o weithgarwch. Drwy gydol yr wythnos, fe wnaethon ni ailadrodd y camau allweddol y dylai unigolion eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd: gwirio eu perygl, cofrestru ar gyfer rhybuddion, a gwybod beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Fel rhan o'n hymgyrch baratoi, fe wnaethom gyflwyno cyflwyniadau parodrwydd ar gyfer y gaeaf i Fforwm Gwydnwch Lleol Llywodraeth Cymru a grwpiau cyfathrebu lleol Fforymau Gwydnwch Lleol. Rhannwyd asedau ymgyrch wedi'u diweddaru hefyd drwy becyn cymorth cyfathrebu'r Fforymau Gwydnwch Lleol, a darparwyd cynnwys cylchlythyr wedi'i deilwra i CNC, Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, a Llygad ar Lifogydd.
Cafodd yr ymgyrch lawer iawn o sylw yn y cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol gan ITV Cymru, BBC Cymru, The Global Network a Bauer Media Group. At ei gilydd, cynhyrchodd yr ymgyrch 13 eitem a gafodd sylw ar ffurf print, ar-lein a darlledu, gan ddarparu mwy na 111 miliwn o gyfleoedd i weld – cynnydd sylweddol o’r 17 miliwn cyfleoedd i weld yn 2024.
Cefnogi Aelodau o’r Senedd a’u hetholwyr
Ym mis Hydref 2025, mynychodd aelodau o dîm y Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol ddigwyddiad “Y Farchnad” yn y Senedd, yn benodol i siarad am gyngor a chefnogaeth i gymunedau sy’n byw gyda pherygl o lifogydd. Fe wnaethon ni ymgysylltu â thua thraean o Aelodau o’r Senedd (naill ai'n uniongyrchol â nhw neu â'u staff cymorth / gweithwyr achos).
Ffigur 16: Staff CNC yn ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd yn nigwyddiad Y Farchnad yn y Senedd ym mis Hydref.
Ein nod oedd helpu Aelodau o'r Senedd a'u timau i fod mewn gwell sefyllfa i helpu eu hetholwyr sydd â chwestiynau ynghylch llifogydd – gan gynnwys pa gymorth a chyngor sydd ar gael gan CNC a phartneriaid eraill. Aethom â chyhoeddiadau a thaflenni gyda ni i’w rhannu a dangoswyd ein gwasanaethau digidol drwy liniaduron a chawsom rai cwestiynau a sgyrsiau diddorol ar y diwrnod.
Fe wnaethon ni hefyd ddilyn hyn gyda dolenni i’n hadnoddau gwybodaeth a chyngor allweddol (yn y Gymraeg a’r Saesneg), gan ofyn i’r aelodau a’u timau rannu ein cyngor gyda’u hetholwyr. Rydym yn bwriadu cynnal y digwyddiad hwn eto yn yr hydref ar ôl etholiadau mis Mai er mwyn i ni allu cwrdd ag aelodau newydd eu hethol o bob plaid wleidyddol a'u helpu i gefnogi eu hetholwyr.
Rhentu Doeth Cymru
Fe wnaethon ni ymchwilio i ffyrdd o ymgysylltu â landlordiaid ac asiantau yng Nghymru i'w helpu i ddeall a yw eu heiddo mewn perygl a'u cyfrifoldebau i denantiaid.
Fe wnaethon ni weithio gyda Rhentu Doeth Cymru i dargedu landlordiaid, asiantau ac, yn y pen draw, denantiaid ledled Cymru, er mwyn deall perygl llifogydd a chymryd camau i baratoi. Roedd eu mewnwelediad i'r sector rhentu preifat a'r ffordd orau o ymgysylltu ag ef yn amhrisiadwy wrth ein helpu i droi canllawiau technegol yn gwrs ar-lein clir ac ymarferol.
Mae’r cwrs datblygiad proffesiynol parhaus am ddim ac mae bellach ar gael i'w gyrchu ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Drwy gwblhau'r hyfforddiant, bydd landlordiaid ac asiantau yn casglu deg pwynt datblygiad proffesiynol parhaus a fydd yn cyfrif tuag at gais adnewyddu trwydded Rhentu Doeth Cymru. Aeth y cwrs yn fyw ym mis Gorffennaf 2025.
Ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol peilot
Drwy ein Tîm Pobl a Lleoedd yng Nghanol De Cymru, mae ymgyrch gyfathrebu beilot ar y gweill i hybu ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ar draws dalgylch afon Taf a Chanol De Cymru yn ehangach. Gan ddefnyddio cymysgedd o sianeli digidol, sain a chymunedol, nod y prosiect yw cyrraedd cymaint o unigolion â phosibl a all fod yn agored i lifogydd. Mae'r dull aml-sianel yn cynnwys hysbysebion wedi'u targedu y talwyd amdanynt ar Meta, LinkedIn a Google Ads. Ar ben hynny, mae negeseuon wedi'u teilwra mewn ystod eang o ieithoedd cymunedol megis Arabeg, Pwyleg, Bengaleg, Portiwgaleg a mwy – sy'n adlewyrchu'r boblogaeth amrywiol ar draws y rhanbarth.
Mae'r ymgyrch hefyd yn cynnwys hysbyseb sain ddwyieithog 30 eiliad, a gafodd ei rhedeg ar draws llwyfannau radio a phodlediadau, ochr yn ochr â phostiadau gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys Cyngor Caerdydd a Chyngor Merthyr Tudful. Daeth y cynllun peilot i ben ym mis Mawrth 2026, ac rydym bellach yn gwerthuso'r canfyddiadau. Byddwn yn rhannu canfyddiadau ac adnoddau unwaith y byddant ar gael.
Gwaith rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy yn wyneb newid arfordirol
Mae cymunedau arfordirol yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd y perygl presennol o lifogydd o'r môr, yn ogystal â newidiadau ffisegol parhaus a'r pwysau y mae newid hinsawdd yn debygol o’u rhoi arnynt yn y dyfodol. Rydym yn chwarae rhan bwysig wrth reoli adeileddau perygl llifogydd arfordirol a hefyd wrth weithio gyda phartneriaid i gynllunio ar gyfer newidiadau yn y dyfodol a'r gofynion ar gyfer addasu dros y tymor hir. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau mewn perthynas â Chynlluniau Rheoli Traethlin ac rydym yn anelu at alinio ein gwaith â'r polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau hyn.
Cynllunio addasiadau arfordirol
Mae ein Rhaglen Addasu Arfordirol yn cefnogi cynllunio rheolaeth a gwydnwch ardaloedd arfordirol agored i niwed sy'n wynebu newid polisi yn yr ail Gynllun Rheoli Traethlin. Drwy'r asesiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o berygl llifogydd i gymunedau, yr amgylchedd a derbynyddion allweddol eraill, datblygir opsiynau mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Yn ystod 2025/26, rydym wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar brosiectau rheoli perygl llifogydd mawr yn aber afon Dyfi, Porthmadog a Phwllheli.
Mae CNC yn cyflawni Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd i fodloni'r gofynion statudol ar gyfer gwrthbwyso cynefinoedd cydbwyso sy'n ymwneud â phrosiectau llifogydd ac erydu arfordirol awdurdodau rheoli risg. Mae Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd bellach wedi'i halinio'n agos â'n Rhaglen Addasu Arfordirol drwy nodi’r opsiwn o greu cynefinoedd morol arfordirol fel un o'r opsiynau ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lefelau môr sy’n codi a safonau amddiffyn rhag llifogydd sy'n gostwng. Mae prosiectau sy'n canolbwyntio ar greu cynefinoedd hefyd ar y gweill, gan gynnwys prosiectau ym Mwche a Thalacharn yn ne Cymru.
Cyflawni Cynlluniau Rheoli Traethlin
Fel aelodau gweithredol o'r pedwar grŵp arfordirol yng Nghymru, mae ein staff wedi cyfrannu at y broses o adrodd i Lywodraeth Cymru ar weithredu polisïau Cyfnod 1 yr ail Gynlluniau Rheoli Traethlin (tymor byr o 2005 i 2025) ar gyfer Mesur 11 o Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Bydd yr argymhellion sy'n deillio o ymarfer Mesur 11 yn llywio gwaith Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru a grwpiau arfordirol drwy gydol 2026 a thu hwnt.
Cynllunio strategol
We lead on strategic flood policy matters, develop long term plans and ensure FRM delivers programmes of work in effective and efficient ways.
Skills and capacity
Rydym yn arwain ar faterion polisi llifogydd strategol, yn datblygu cynlluniau hirdymor, ac yn sicrhau bod gwaith i reoli perygl llifogydd yn cyflawni rhaglenni gwaith mewn ffyrdd effeithiol ac effeithlon.
Sgiliau a galluedd
Rydym yn cydnabod yr angen i roi mwy o ffocws ar feithrin sgiliau a galluedd ym maes rheoli perygl llifogydd ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn cefnogi datblygiad ein staff a bod ganddynt y sgiliau cywir fel y gallwn fynd i'r afael â'n heriau yn y dyfodol yn ystyrlon.
Yn ystod 2025/26, fe wnaethom barhau i fuddsoddi mewn sgiliau a datblygiad ym maes rheoli perygl llifogydd. Yn ogystal ag ariannu hyfforddiant technegol ar gyfer rheoli perygl llifogydd unwaith eto, fe wnaethom hefyd gyflawni amrywiaeth o fentrau eraill. Y prif uchafbwyntiau oedd fel a ganlyn:
- Recordiadau o gwrs cynefino rheoli perygl llifogydd – i ategu'r rhaglen gynefino “wyneb yn wyneb” ar gyfer rheoli perygl llifogydd, fe ddechreuon ni'r broses o greu fersiwn wedi'i recordio o'r cwrs. Mae naw pennod wedi'u recordio hyd yn hyn, ac mae'r rhain wedi'u darparu i bob awdurdod rheoli risg yng Nghymru. Bydd elfennau sy'n weddill o'r cwrs cynefino yn cael eu creu yn hanner cyntaf 2026/27.
- Ymweliadau â safleoedd rheoli perygl llifogydd ar y cyd â’r awdurdodau rheoli risg – sefydlwyd y rhaglen ymweliadau â safleoedd rheoli perygl llifogydd ar y cyd yn 2025/26 ac rydym wedi parhau â'r rhaglen eleni. Mae'r rhaglen yn targedu dechreuwyr newydd i’r maes rheoli perygl llifogydd o bob awdurdod rheoli risg yng Nghymru ac yn darparu cyfleoedd i ymweld â lleoliadau lle mae menter rheoli perygl llifogydd, megis cynlluniau lliniaru llifogydd a safleoedd addasu arfordirol. Eleni, bu ymweliadau â Morglawdd Bae Caerdydd ac â Rhydaman i weld y gwelliannau newydd yno i amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol ac mae'r ymweliadau wedi darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a rhwydweithio gwerthfawr. Mae rhagor o ymweliadau â safleoedd wedi’u cynllunio ar gyfer 2026/27.
Ffigur 17: Ymweliad â Morglawdd Bae Caerdydd ar y cyd â’r awdurdodau rheoli risg.
Cyfleoedd lleoliadau ym maes rheoli perygl llifogydd – gan adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae’r maes rheoli perygl llifogydd wedi sicrhau cyllid ar gyfer pedwar lleoliad arall i raddedigion, a fydd yn ymuno â ni ym mis Medi 2026. Bydd y lleoliadau blwyddyn o hyd hyn yn cael eu cynnal ar draws ystod o arbenigeddau a thimau ym maes rheoli perygl llifogydd. Byddwn yn monitro cynnydd y rhai sy’n cyflawni’r lleoliadau drwy gydol eu blwyddyn gyda ni ac yn chwilio am gyfleoedd iddynt barhau â'u gyrfaoedd ym maes rheoli perygl llifogydd yn CNC.
Adroddiad adran 18 wedi'i gyhoeddi
Fe wnaethon ni gyhoeddi'r adroddiad adran 18 diweddaraf, sy'n ymdrin â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o 2023 i 2025. Cynhyrchir yr adroddiad hwn fel gofyniad o dan adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion Cymru am y cynnydd a wnaed o ran rhoi ar waith Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020.
Datblygu'r Cynllun Buddsoddi Strategol
Mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, bydd y llifogydd y mae Cymru'n eu profi yn gwaethygu ac yn mynd yn fwy eithafol, ac yn hollbwysig nid yw'r cyllid, yr adnoddau a'r meddylfryd sydd eu hangen i helpu i ymateb i'r argyfwng hwn yn cadw i fyny â'r her honno. Mae angen i'r ffordd rydym yn meddwl am berygl llifogydd yng Nghymru, a’i reoli, newid. Mae angen inni ddatblygu'r gallu i symud o ddull adweithiol o ymdrin â llifogydd i ddull rhagweithiol. Dyma lle rydym yn arwain camau rhagweithiol i wneud cymunedau'n fwy gwydn ac yn fwy parod, yn hytrach nag ymateb i lifogydd yn unig. Rydym wedi ymgymryd â gwaith eleni i ddatblygu cynllun buddsoddi strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd sy'n anelu at roi cyngor strategol i lunwyr polisi a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar feysydd ffocws ac uchelgeisiau allweddol, yn ogystal â darparu achos buddsoddi er mwyn dechrau sgwrs ynghylch yr anghenion o ran adnoddau a'r cyfleoedd buddsoddi y mae cymdeithas yn eu hwynebu.
Cynlluniau rheoli perygl llifogydd
Cyhoeddwyd ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi'i ddiweddaru ym mis Tachwedd 2023. Mae’r cynllun yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd am y chwe blynedd nesaf ar gyfer yr ardaloedd llifogydd y mae gennym ni’r prif gyfrifoldebau amdanynt: llifogydd o afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr. Mae'r adrannau sy'n canolbwyntio ar leoedd yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnwys mesurau a chamau gweithredu wedi'u cynllunio gyda'r amcan cyffredinol o leihau'r risg i bobl a chymunedau o lifogydd. Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran cyflawni'r mesurau hyn. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, mae 84 o fesurau o'r cynllun wedi'u cwblhau, mae 122 o fesurau ar y gweill, ac nid ydym wedi cychwyn ar 111 o’r mesurau eto. Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys dros 60 o fesurau sydd wedi'u hychwanegu at ein cynllun gwaith ers dechrau'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd, sy'n dangos sut rydym yn ychwanegu mesurau a chamau gweithredu newydd at ein cynlluniau gwaith unwaith y bydd mesurau eraill wedi'u cwblhau.
Mae'r siart cylch isod yn dangos y cynnydd canrannol yn erbyn ein mesurau yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd.
| Measure status | Percentage |
|---|---|
| Measures complete | 26.5 |
| Measures not started | 35 |
| Measures ongoing | 38.5 |
Ffigur 18: Siart cylch yn dangos cynnydd mesurau yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd.
Mae'r mesurau sydd wedi'u cwblhau ers y diweddariad diwethaf yn cynnwys:
- Gwelliannau i’n modelau hydrolig presennol ym Mangor, Trefynwy, Pontardawe, Pont-hir, Resolfen, Ynysgynwraidd, Brynbuga ac Ystrad Mynach
- Gwelliannau i'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd presennol yn Llanfair-ym-Muallt, Caerllion, Crucywel, Trefyclo, Pont-hir ac Ynysgynwraidd
- Dylunio ac adeiladu cynlluniau lliniaru llifogydd yn Llanfair Talhaearn (Nant Barrog) a Llyn Tegid, a gwelliannau i asedau llifogydd yn Llanfair Talhaearn (afon Elwy)
- Cwblhau gwaith asesu a dichonoldeb cychwynnol i ystyried sut y gallem leihau'r perygl o lifogydd ym Mae Cinmel, Trefyclo a Llandinam
- Ystyried opsiynau rheoli yn y dyfodol a chynllunio addasu arfordirol yn y dyfodol yn Nysynni
Ymchwil a datblygu ym maes rheoli perygl llifogydd
Mae gennym raglen ymchwil a datblygu strategol sydd â'r nod o ddarparu tystiolaeth allweddol i lywio a gwella ein hanghenion gweithredol a’n hanghenion pholisi ar draws maes rheoli perygl llifogydd. Er mwyn ein helpu i ddiwallu’n hanghenion o ran ymchwil a thystiolaeth, rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar Raglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd. Nod y rhaglen yw diwallu anghenion pob awdurdod llifogydd ac arfordirol sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd wedi cyhoeddi sawl prosiect allweddol y mae CNC wedi bod yn rhan ohonynt, gan gynnwys amcangyfrif buddion rheoli llifogydd yn naturiol (Saesneg yn unig). Mae'r rhestr lawn o brosiectau i'w gweld ar wefan prosiectau ymchwil a datblygu rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol (Saesneg yn unig).
Mae'r rhaglen ymchwil a datblygu ehangach yn cynnwys 36 o brosiectau wedi'u rhannu'n dri maes thema: 1) Polisi, strategaeth a buddsoddi, 2) Rheoli asedau a 3) Rheoli a modelu digwyddiadau. Mae ein staff yn ymwneud yn uniongyrchol ag 20 o'r prosiectau hyn, naill ai fel aelod gohebol neu'n cymryd rhan weithredol ar lefel bwrdd prosiect.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn defnyddio'r wyth maes o ddiddordeb ymchwil a nodwyd drwy'r cynllun ymchwil ar y cyd fel rhan o'r rhaglen ymchwil a datblygu ar y cyd i helpu i nodi ystod o anghenion tystiolaeth gan ein staff. Gweler rhagor o fanylion am feysydd o ddiddordeb ymchwil yma (Saesneg yn unig).
Gweithgor Sgwrio Traws-reoleiddiol
Yn 2025/26, chwaraeodd CNC ran allweddol yn y Gweithgor Sgwrio Traws-reoleiddiol, partneriaeth strategol ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, Network Rail, a'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd. Mae'r gweithgor yn dod â rheoleiddwyr a chyrff seilwaith ynghyd ar lefel genedlaethol i wella sut mae’r risg sgwrio mewn croesfannau rheilffordd yn cael ei hasesu a'i rheoleiddio a sut y dylunnir ar ei chyfer.
Drwy gydweithio ar draws ffiniau a sefydliadau, mae'r gweithgor hwn wedi cryfhau cydberthnasau strategol ac wedi creu llais rheoleiddio a rennir. Mae hyn wedi galluogi ymgysylltu cynharach a mwy effeithiol â Network Rail, gan arwain at gynllunio hirdymor gwell yn hytrach nag ymateb yn hwyr yn ystod y broses gyflawni.
Mae'r gweithgor yn gweithio i ddylanwadu ar ddiwygiadau i ddull asesu sgwrio cenedlaethol Network Rail, gan hyrwyddo defnydd cryfach o geomorffoleg, gwell arfarniad o opsiynau, a mwy o ystyriaeth o atebion ar sail natur ac atebion hybrid. Mae gan hyn y potensial i leihau oedi, osgoi ailgynllunio dro ar ôl tro, a gwella deilliannau ar gyfer cydnerthedd seilwaith a'r amgylchedd dŵr.
I CNC, mae'r gwaith hwn yn dangos gwerth rheoleiddio dan arweiniad partneriaeth: defnyddio arbenigedd, tystiolaeth a chydberthnasau a rennir i gyflawni deilliannau perygl llifogydd ac amgylcheddol mwy cyson, effeithlon a chynaliadwy ar raddfa fawr.
Atebion ar sail natur
Mae atebion ar sail natur yn cyfeirio at ddefnyddio nodweddion a phrosesau naturiol i fynd i'r afael â materion amgylcheddol-gymdeithasol. Ystyrir bod rheoli llifogydd yn naturiol yn ateb ar sail natur i helpu i fynd i'r afael â llifogydd trwy ddefnyddio neu adfer prosesau naturiol i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Gall rheoli llifogydd yn naturiol hefyd ddarparu llawer o fuddion ehangach, gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, cynyddu gwydnwch ecosystemau, gwella ansawdd dŵr, a storio carbon.
Fel sefydliad, rydym am arwain trwy esiampl, gan gyflawni ein hamcanion corfforaethol i amddiffyn a gwella byd natur, ymateb i'r argyfwng hinsawdd, a lleihau llygredd. Mae rhoi mesurau rheoli llifogydd yn naturiol ar waith yn gallu cyflawni'r amcanion hyn ac mae gan y mesurau hynny rôl bwysig wrth gefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.
Mapio atebion ar sail natur yn strategol – astudiaeth gwmpasu
Er mwyn cyflymu a chynyddu'r ddarpariaeth o atebion ar sail natur ar gyfer gwrthsefyll llifogydd ledled Cymru, mae'n hanfodol deall ble gall atebion ar sail natur ddarparu'r buddion mwyaf ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac adfer byd natur. Mae angen y ddealltwriaeth hon i gefnogi blaenoriaethu effeithiol, cyllid, tystiolaeth gliriach o ddeilliannau aml-fudd, a chyflawniad cydlynol ar raddfa genedlaethol, dalgylch a safle.
I gefnogi hyn, rydym wedi cynnal astudiaeth gwmpasu i archwilio sut y gallai ystod o offer a setiau data posibl helpu i fynd i'r afael â heriau cyflawni allweddol. Mae'r astudiaeth yn ystyried sut y gallai tystiolaeth a mapio gwell gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar draws sawl graddfa, o gynllunio buddsoddi a chydlynu dalgylchoedd ar lefel genedlaethol i ddylunio ar lefel safle.
Mae'r gwaith yn adeiladu ar gyfres o fentrau mapio arwyddocaol ym maes rheoli llifogydd yn naturiol a gynhaliwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys mapiau potensial gweithio gyda phrosesau naturiol ar raddfa genedlaethol, mapio blaenoriaethu rheoli llifogydd yn naturiol, ac ymchwil ddiweddar fel prosiect mesur maint tebygol effeithiau lliniaru llifogydd ar sail natur ar draws dalgylchoedd mawr (Q-NFM) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn wedi gwella dealltwriaeth yn raddol o ble a sut y gellir cyflawni’r gwaith o reoli llifogydd yn naturiol ar raddfa fawr.
Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli'r cam nesaf yn y datblygiad hwnnw. Mae'n ceisio nodi'r offer a'r dulliau sydd eu hangen i gryfhau a chynyddu'r ddarpariaeth atebion ar sail natur ledled Cymru, gan adeiladu'n uniongyrchol ar sylfeini technegol presennol, datblygiadau modelu a setiau data. Bydd y camau nesaf yn canolbwyntio ar ddatblygu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi blaenoriaethu, cydweithio, a chyflawniad effeithiol gan CNC a'i bartneriaid.
Prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol
Rydym wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid o Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol ddiweddaraf Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â phrosiect yn Ninas Powys. Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i reoli llifogydd ar sail natur ym mhob prif ddalgylch afon er mwyn ehangu cynefinoedd gwlyptiroedd a choetiroedd.
Afon Tregatwg, Dinas Powys
Rydym wedi parhau â'n gwaith gyda thirfeddianwyr a chymunedau yn nalgylch uchaf afon Tregatwg i bennu ystod o opsiynau posibl ar gyfer atebion ar sail natur / rheoli llifogydd yn naturiol gyda chefnogaeth tirfeddianwyr ar gyfer y dalgylch. Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer gweithredu ymyriadau atebion ar sail natur yng Nghwm George a Choed Casehill yn Ninas Powys, gyda chysylltiad parhaus â Choed Cadw, a'n nod yw symud ymlaen i gyflawni ar lawr gwlad yn 2026/27. Mae'r opsiynau hyn yn ceisio cefnogi busnes y fferm, llesiant a natur sy'n agos at yr afon, ei his-afonydd, a'r dalgylch ehangach. Bydd y gweithgareddau hyn yn helpu adfer byd natur, yn cynyddu gwydnwch cymunedau i newid hinsawdd a pherygl llifogydd, ac yn gwella ansawdd dŵr.
Afon Elái
Yn 2025/26, gosodwyd 30 o rwystrau mandyllog ar Nant y Cesair yng Nghoedwig Tyn-y-coed. Cafodd rhan 40 metr o is-afon nad oes enw ganddi o afon Elái yng Nghoedwig Llantrisant ei gwella hefyd gan ddefnyddio’r dull “llenwi cafnau”. Nod y prosiectau bach hyn yw gweithio gyda chydweithwyr rheoli tir i archwilio ffyrdd gwell o reoli dŵr ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal, mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol wedi cefnogi asesiad hydrolegol yn Hensol. Bydd hyn yn helpu i nodi ffyrdd o storio mwy o ddŵr ar y safle heb effeithio ar weithrediadau coedwigaeth. Mae'r cyllid hefyd wedi cefnogi astudiaeth ddichonoldeb ar ddarn 1 km o afon Elái yng Nghoed Elái ac astudiaeth ddichonoldeb i ailgysylltu gorlifdir ar Nant Mychydd i lawr yr afon o'r Bathdy Brenhinol.
Ffigur 19: Un o 30 o rwystrau mandyllog a osodwyd ar Nant y Cesair (llun ar y chwith). Llenwi cafnau mewn is-afon ddienw afon Elái (llun ar y dde).
Ble mae ein harian yn cael ei wario
Rydym yn cael ein hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd, a hynny ar ffurf cyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Daw hyn ar ffurf cyllid refeniw sy'n cefnogi gweithgareddau a gwasanaethau gweithredol arferol a “busnes fel arfer”, yn ogystal â chyllid cyfalaf a ddefnyddir i gyflawni gwaith prosiect.
Yn ystod 2025/26, derbyniodd CNC gyfanswm o £46.5 miliwn o gyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd. Roedd y swm hwn yn cynnwys £24.5 miliwn o gyllid refeniw a £22 miliwn o gyllid cyfalaf. Cafodd y cyllid hwn ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gyflawni'r canlyniadau rheoli perygl llifogydd, cynnal y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu, a chyflawni llawer iawn o'r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.
Cyllid cyfalaf
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, roedd ein cyllideb gyfalaf yn £22 miliwn. Fe wnaethon ni gynnal amddiffyniad i 1,040 o eiddo trwy brosiectau cynnal a chadw cyfalaf.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â sawl cynllun mawr a oedd ar gamau gwahanol o’u datblygiad yn ystod 2025/26. Bydd y cynlluniau hyn yn ffurfio mwyafrif ein gwariant cyfalaf yn y blynyddoedd i ddod ac yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec, Dinbych-y-pysgod (Sir Benfro), a Chynllun Strategol Rheoli Llifogydd Dalgylch Afon Taf (Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd). Yn y tymor hir, disgwylir i'r rhain fod o fudd i dros 3,000 o eiddo pan fyddant wedi'u cwblhau. Mae Ffigur 10 isod yn cynnwys dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect:
| Project type | Spend | % of total |
|---|---|---|
| Business transformation | £4,596,188 | 22% |
| Capital maintenance | £5,442,978 | 25% |
| Core activities | £6,653,477 | 31% |
| Mapping and modelling | £353,961 | 2% |
| New defence | £4,215,824 | 20% |
Ffigur 20: Siart cylch yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect
Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys costau cyflog wedi’u cyfalafu (£2.3 miliwn), cyfraniadau i wasanaethau galluogi corfforaethol ehangach (£1.8 miliwn), a phrynu cerbydau fflyd, peiriannau ac offer (£2.5 miliwn). Mae costau trawsnewid busnes cyfalaf yn ymwneud â gwaith datblygu system TGCh benodol i reoli perygl llifogydd, neu gyfraniadau at waith datblygu systemau sydd er budd i wasanaethau rheoli perygl llifogydd. Yn 2025/26, roedd hyn yn cynnwys prosiectau i ddisodli ein system rhybuddion llifogydd a’n system telemetreg.
Cyllid refeniw
Cefnogodd y setliad refeniw o £24.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yr ymdrech sylweddol sy'n ofynnol o ran cynnal a darparu'r gwasanaethau, cyngor, offerynnau a gweithgareddau y mae CNC yn ymgymryd â nhw er mwyn helpu i reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Yn bennaf, mae'r cyllid hwn yn cynnal costau staff, gwaith cynnal a chadw arferol, gwasanaethau galluogi amrywiol sy'n cefnogi ein gwaith, a gweithgareddau arferol eraill. Mae Ffigur 21 isod yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd.
| Revenue activity | Spend |
|---|---|
| Managing flood risk assets | £7,555,749 |
| Forecasting and issuing flood warnings | £2,229,469 |
| Community engagement and resilience | £188,028 |
| Understanding and analysing flood risk | £1,163,725 |
| Flood risk advice, permitting, compliance and enforcement | £1,714,132 |
| Responding to and managing incidents | £2,513,359 |
| Flood risk strategic planning & investment | £686,902 |
| Delivery of the hydrology, geomorphology, hydrometry and telemetry service | £1,413,400 |
| Reservoirs management and regulation | £357,590 |
| Enabling costs and service provision | £6,715,213 |
Ffigur 21: Siart cylch yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd.
Mae pob un o'r meysydd gwaith hyn yn rhyngweithio ac yn gorgyffwrdd â'i gilydd i ddarparu gwasanaethau allweddol, felly mae rhai meysydd lle bydd timau'n cefnogi gweithgareddau ehangach a all gamliwio graddfa'r ymdrech mewn perthynas â rhai o'r gweithgareddau uchod gan fod llawer o feysydd yn ddibynnol ar ei gilydd i gyflawni deilliannau. Er enghraifft, mae gwaith hydrometreg a thelemetreg yn cefnogi’r broses o ddarogan a chyhoeddi rhybuddion llifogydd yn helaeth a hefyd yn meithrin ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yn fwy cyffredinol.
Mae gwasanaethau galluogi a gorbenion corfforaethol yn cynnwys cyfraniad rheoli perygl llifogydd i wasanaethau busnes allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgareddau rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, caffael, llywodraethiant ac arweinyddiaeth, cynllunio corfforaethol, gwasanaethau cyfreithiol, rheoli pobl, cyfleusterau, rheoli’r fflyd, a chyllid. Mae costau darparu gwasanaeth yn gysylltiedig â gweithredu a chynnal systemau, offer a gwasanaethau allweddol a gefnogir gan eraill.
Defnyddiwyd y gyllideb refeniw o £24.5 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn 2025/26, a helpodd i gefnogi llawer o'r mentrau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â sicrhau bod ein gwasanaethau “busnes fel arfer” wedi parhau i gael eu darparu’n effeithiol.
Niferoedd staff
Yn y sefyllfa sydd ohoni ym mis Mawrth 2026, rydym yn amcangyfrif bod nifer y staff mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn meysydd sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd fel y nodir yn y tabl canlynol. (Nid yw'r adroddiad hwn yn cynnwys data ar nifer y staff sy'n gweithio ym maes gwasanaethau galluogi oherwydd ei bod yn rhy gymhleth i nodi rolau a chyfraniadau penodol.)
| Maes gwaith sefydliadol | Niferoedd staff cyfwerth ag amser llawn |
|---|---|
| Rheoli asedau perygl llifogydd | 174.7 |
| Darogan a chyhoeddi rhybuddion llifogydd | 33.7 |
| Gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol | 4.4 |
| Deall perygl llifogydd a'i ddadansoddi | 25.1 |
| Cyngor ar berygl llifogydd, trwyddedu, cydymffurfio a gorfodi | 41.1 |
| Ymateb i ddigwyddiadau a'u rheoli | 53.7 |
| Cynllunio strategol a buddsoddi ym maes perygl llifogydd | 15.6 |
| Cyflwyno'r gwasanaeth hydroleg, geomorffoleg, hydrometreg a thelemetreg | 23.7 |
| Rheoli a rheoleiddio cronfeydd dŵr | 8.7 |
| Arall | 1.7 |
| Cyfanswm yr amcangyfrif o staff cyfwerth ag amser llawn a ariennir gan refeniw’r cymorth grant ar gyfer perygl llifogydd yn CNC | 382.4 |
Tabl 9: Swyddi, wedi'u cyllidebu, staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio'n uniongyrchol ym maes rheoli perygl llifogydd ym mis Mawrth 2026 (pob swydd, gan gynnwys swyddi gwag).
Tueddiadau
Pwrpas y bennod hon yw dangos sut mae blwyddyn ariannol 2024/25 yn cymharu â'r blynyddoedd ariannol blaenorol. Nid data newydd yw hwn, ond mae'n cyfuno ac yn crynhoi'r data sydd wedi'i gynnwys drwy gydol yr Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd hwn a fersiynau blaenorol. Fel yr Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd, mae'r data tueddiadau wedi'i rannu'n bynciau swyddogaethol er hwylustod.
Adroddir y data tuedd canlynol er gwybodaeth yn unig heb sylwadau. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at benderfyniadau cynllunio busnes a buddsoddi o fewn CNC ac i helpu i lywio'r broses honno.
Rheoli asedau perygl llifogydd – asedau newydd
Eiddo sy'n elwa o lefel gynaliadwy neu is o berygl llifogydd:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Eiddo | 720 | 242 | 1,680 | 1,047 | 1,888 | 1,040 |
Tabl 10: Nifer yr eiddo sy'n elwa ar lefel gynaliadwy neu is o berygl llifogydd
Rheoli asedau perygl llifogydd – archwiliadau asedau
Nifer yr archwiliadau o asedau arferol a gwblhawyd bob blwyddyn:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer | 11,810 | 11,061 | 13,571 | 15,725 | 14,289 | 15,165 |
Tabl 11: Nifer yr archwiliadau o asedau arferol a gwblhawyd bob blwyddyn
Rheoli asedau perygl llifogydd – perfformiad asedau
Canran yr asedau mewn systemau risg uchel sydd yn eu cyflwr gofynnol neu uwchlaw iddo i gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| % | 97.5 | 98.1 | 98.3 | 97.2 | 97.2 | 97.2 |
Tabl 12: Canran yr asedau mewn systemau risg uchel sydd yn eu cyflwr gofynnol neu uwchlaw iddo i gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol
Rheoleiddio cronfeydd dŵr – nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr a chronfeydd dŵr risg uchel
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer y cronfeydd dŵr | 371 | 395 | 397 | 402 | 405 | 403 |
| Nifer y cronfeydd dŵr risg uchel | 188 | 248 | 266 | 269 | 277 | 285 |
Tabl 13: Nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr a chronfeydd dŵr risg uchel
Cynghori cynllunwyr a gwaith cydsynio a gorfodi – cyngor ar gynllunio datblygu
Nifer yr ymgynghoriadau cynllunio lle nodwyd perygl llifogydd gan yr awdurdod cynllunio lleol fel cyfyngiad posibl:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer | 2,086 | 2,353 | 2,414 | 2,352 | 2,100 | 2,700 |
Tabl 14: Nifer yr ymgynghoriadau cynllunio lle nodwyd perygl llifogydd gan yr awdurdod cynllunio lleol fel cyfyngiad posibl
Cynghori cynllunwyr a gwaith cydsynio a gorfodi – rheoleiddio gweithgareddau perygl llifogydd
Nifer y trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd ac esemptiadau rhag trwydded gweithgarwch perygl llifogydd a roddwyd gan CNC ym mhob blwyddyn ariannol
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer y trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd | 214 | 285 | 241 | 218 | 204 | 190 |
| Nifer yr esemptiadau | 30 | 52 | 22 | 50 | 46 | 31 |
Tabl 15: Nifer y trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd ac esemptiadau rhag trwydded gweithgarwch perygl llifogydd a roddwyd gan CNC ym mhob blwyddyn ariannol
Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion
Dyddiau o berygl llifogydd uwch
Amlygir perygl llifogydd uwch drwy’r Datganiad Cyfarwyddyd Llifogydd, sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol dros bum niwrnod i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd datblygol. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy ein gwefan.
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Dyddiau o berygl llifogydd uwch (effeithiau rhagolwg bach a mwy) | 153 | 121 | 75 | 139 | 102 | 140 |
| Dyddiau o berygl llifogydd dwysach (effeithiau rhagolwg sylweddol ac uwch) | 39 | 15 | 15 | 20 | 40 | 33 |
Tabl 16: Nifer y dyddiau o berygl llifogydd uwch
Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion
Nifer yr hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd a rhybuddion llifogydd a gyhoeddwyd bob blwyddyn:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer yr hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd | 596 | 369 | 472 | 760 | 622 | 700 |
| Nifer y rhybuddion llifogydd | 195 | 193 | 118 | 196 | 217 | 158 |
| Nifer y rhybuddion llifogydd difrifol | 2 | 0 | 0 | 3 | 2 | 5 |
Tabl 17: Nifer yr hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd a rhybuddion llifogydd a gyhoeddwyd bob blwyddyn
Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion
Nifer yr eiddo sydd wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd uniongyrchol:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer yr eiddo sydd mewn perygl sydd wedi'u cofrestru'n llawn i dderbyn rhybuddion llifogydd | 52,011 | 49,161 | 48,411 | 47,551 | 48,271 | 48,800 |
Tabl 18: Nifer yr eiddo sydd wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd uniongyrchol
Rhwydwaith hydrometrig
Nifer y mesuryddion glaw, safleoedd gwastad neu lif, a safleoedd dŵr daear o fewn ein rhwydwaith:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Mesuryddion glaw | 253 | 253 | 255 | 253 | 253 | 254 |
| Safleoedd gwastad neu lif | 340 | 347 | 344 | 334 | 333 | 341 |
| Safleoedd dŵr daear | 139 | 139 | 140 | 135 | 135 | 135 |
Tabl 19: Nifer y mesuryddion glaw, safleoedd gwastad neu lif, a safleoedd dŵr daear o fewn ein rhwydwaith
Gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol
Nifer y cynlluniau llifogydd cymunedol sydd ar waith ledled Cymru sy'n cael eu cynnal ac yn addas at y diben ac sy’n darparu gwasanaeth i'r cymunedau sy'n berchen arnynt ac yn eu defnyddio:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer | 76 | 74 | 74 | 71 | 76 | 65 |
Tabl 20: Nifer y cynlluniau llifogydd cymunedol sydd ar waith ledled Cymru sy'n cael eu cynnal ac yn addas at y diben ac sy’n darparu gwasanaeth i'r cymunedau sy'n berchen arnynt ac yn eu defnyddio
Ble mae ein harian yn cael ei wario
Gwariant cyfalaf:
| Blwyddyn | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| £ miliwn | 13.5 | 17 | 19.5 | 32.1 | 22.5 | 22 |
Tabl 21: Swm y gwariant cyfalaf mewn miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ariannol
Gwariant refeniw:
| Year | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| £ million | 21 | 22 | 22.5 | 24.5 | 24.5 | 24.5 |
Tabl 22: Swm y gwariant refeniw mewn miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ariannol