Cyngor i awdurdodau cynllunio ar ddatblygiadau amaethyddol o fewn ACAau afonydd
Darllenwch gyngor cynllunio cyffredinol ar gyfer cynigion datblygu mewn ACAau afonydd
Rhaid cynnal asesiad priodol o’r gweithgareddau adeiladu a ganlyn o dan y Rheoliadau Cynefinoedd gan yr ystyrir eu bod yn cael effaith sylweddol debygol ar nodweddion ACA:
- Mannau dan do i dda byw – cynigion a fydd yn newid adeiladau’n sylweddol e.e. amnewid/estyniad (uwchraddio) – ar gyfer pob math o dda byw
- Mannau dan do i dda byw (adeilad newydd) - pob math o dda byw
- Peiriannau / unrhyw fath arall o sied storio
- Cyfleusterau ac adeiladau ar gyfer trin tail, slyri a mathau eraill o dail organig e.e. treulio anaerobig neu gompostio
- Storfa tail / slyri newydd neu wedi'i newid yn sylweddol - pob math o dail gan gynnwys 'tail organig' er enghraifft gweddillion treuliad anaerobig neu gompost
- Clamp silwair
- Gwlyptiroedd Fferm wedi'u Hadeiladu
- Pwll derbyn dŵr sydd ychydig yn fudr
- Datblygiad garddwriaethol
- Traciau / ffyrdd
- Stablau
- Cyfleusterau trin da byw
Ystyrir na fydd y canlynol yn cael effaith sylweddol debygol ar nodweddion ACA ac felly nid oes angen gweithredu pellach o dan y Rheoliadau Cynefinoedd:
- Gorchudd dros iard sydd eisoes yn bodoli
- Toeon ar gyfer storfeydd tail/slyri
- Pyllau / cronfeydd dŵr ar gyfer storio dŵr heb ei halogi at ddibenion dyfrhau / cadwraeth. (Ac eithrio gwlyptiroedd adeiledig y mae dŵr budr yn llifo iddynt)
Rhaid i unrhyw ddatblygiad gydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau cyfredol ar gyfer gweithgareddau sy'n berthnasol i arferion amaethyddol, a dod o fewn canllawiau arfer da ar gyfer rheoli, er enghraifft y Cod Ymarfer Amaethyddol Da Llyw.cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf