Gwneud cais am drwydded pysgodfa gocos ar gyfer Aber Afon Dyfrdwy

Mae ceisiadau bellach yn agored ar gyfer trwydded pysgodfa gocos ar gyfer Aber Afon Dyfrdwy a byddant yn cau ar 14 Mehefin 2021.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am drwydded pysgodfa gocos ar gyfer Aber Afon Dyfrdwy, mae'n rhaid i chi:

  • fod wedi pasio prawf person cymwys a phriodol
  • gallu dangos tystiolaeth o'ch profiad
  • bod yn o leiaf 16 oed cyn diwrnod cyntaf y tymor pysgota cocos rydych yn gwneud cais amdano

 

Gwybodaeth sydd angen i chi ei darparu yn eich cais

Asesiad person cymwys a phriodol

Er mwyn cynnal lle gweithredol ar y rhestr dyrannu trwyddedau, mae'n rhaid i ymgeisydd lwyddo yn yr asesiad person cymwys a phriodol.

Yn rhan o’r asesiad hwn, mae'n rhaid i'r ymgeisydd gwblhau gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cynnal gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Y tri maes y bydd CNC yn eu hasesu fel a ganlyn:

  • euogfarnau neu rybuddiadau pysgodfeydd heb eu disbyddu
  • unrhyw euogfarnau neu rybuddiadau perthnasol eraill heb eu disbyddu
  • hanes o ddiffyg cydymffurfio neu ymddygiad gwael

Bydd ymgeisydd sy'n methu'r asesiad person cymwys a phriodol o dan unrhyw un o'r tri maes hyn yn cael ei le ar y rhestr dyrannu trwyddedau wedi'i atal.

Eich tystiolaeth

Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o'ch profiad perthnasol. Mae'n rhaid i'ch tystiolaeth ddangos o leiaf un o'r canlynol:

  • eich bod wedi cymryd rhan weithredol a sylweddol ym mhysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy neu mewn pysgodfa gocos arall
  • eich bod wedi gweithredu fel pysgotwr masnachol yn Aber Afon Dyfrdwy neu fel pysgotwr masnachol mewn lle arall
  • eich bod wedi bod yn berchen ar gwch pysgota cofrestredig neu wedi bod yn gymwysedig fel capten cwch

Mae enghreifftiau o’r dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon atom yn cynnwys:

  • Ffurflenni treth
  • Datganiadau ar ddaliadau
  • Anfonebau gwerthiannau
  • Dogfennau glanio
  • Cofnodion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau o berchenogaeth cychod, cofrestrau fflyd, a thystysgrifau gwreiddiol yn dangos cymwysterau perthnasol
  • Tystiolaeth gan ffynhonnell wiriadwy i arddangos gweithgarwch yn y diwydiant pysgota. Gallai hyn fod yn drwyddedau neu gyfathrebiadau gan Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) neu’r Sefydliad Rheoli Morol
  • Lluniau – os ydynt yn glir a gwiriadwy, megis lluniau o hawlenni neu drwyddedau. Ni allwn dderbyn lluniau os nad ydynt yn wiriadwy, er enghraifft unigolyn yn sefyll ar gwch pysgota neu wrth ei ymyl

Salwch neu anabledd sydd wedi'ch rhwystro chi rhag gweithio

Os gallwch arddangos eich bod wedi cymryd rhan yn y bysgodfa yn ystod o leiaf un tymor pysgota llawn ond bod salwch neu anabledd wedi'ch rhwystro chi rhag cymryd rhan mewn un neu fwy o flynyddoedd dilynol, gallwch gyflwyno tystiolaeth o'ch salwch neu anabledd i ni.

Gall tystiolaeth gynnwys:

  • cofnodion o daliadau statudol, er enghraifft tâl salwch statudol, lwfans byw i'r anabl neu fudd-dal analluogrwydd, neu daliadau statudol eraill sy'n berthnasol i anabledd neu analluogrwydd i weithio
  • cofnodion meddygol o'r un cyfnod sy'n arddangos yn foddhaol eich bod yn anaddas yn feddygol i gymryd rhan drwy gydol y tymor/tymhorau pysgota

Gallwn ofyn am wybodaeth ychwanegol i wirio ceisiadau. Pan ydych yn cyflwyno cofnodion meddygol, mae'n rhaid i chi roi hawlildiad eich bod yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â'ch ymarferydd meddygol i’w gwirio.

Ffurflenni treth incwm

Dylech gyflwyno ffurflen dreth incwm ar gyfer pob blwyddyn o dystiolaeth rydych yn ei darparu rhwng 2015 a 2020. Mae'n rhaid i'r ffurflen dreth incwm nodi y deilliwyd o leiaf ychydig o'ch incwm o weithgarwch pysgota masnachol. Os nad ydych wedi cyflwyno ffurflen dreth incwm am flwyddyn, ni fyddwn yn rhoi pwyntiau ar gyfer y flwyddyn honno.


Sut i anfon eich cais atom

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cwblhau'r ffurflen gais ar-lein, lanlwythwch llun ohonoch, prawf adnabod a phrawf cyfeiriad

    ac

  • anfon eich tystiolaeth atom ar wahân drwy bost cofrestredig neu drwy e-bost


Os hoffech gwblhau'r cais cyfan drwy'r post, cysylltwch â ni am ffurflen gais ar 0300 065 3000.

Ni allwch ddal mwy nag un drwydded o fewn pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy, felly gwnewch un cais yn unig.


Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais

Bydd eich cais yn cael ei sgorio dros dro gan Swyddog Cocos Aber Afon Dyfrdwy. Byddwn yn cysylltu â chi i ddweud eich sgôr dros dro wrthych chi.

Bydd gennych bum diwrnod gwaith o'r dyddiad y cewch hysbysiad o'ch sgôr dros dro i anfon unrhyw dystiolaeth bellach atom.

Deg diwrnod gwaith o'r dyddiad y cewch hysbysiad o'ch sgôr dros dro, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau, drwy lofnod, eich bod wedi darparu'r holl dystiolaeth berthnasol i ategu eich cais.


Apeliadau a sut rydym yn asesu ceisiadau

Mae dogfen y weithdrefn dyrannu trwyddedau'n egluro'r broses ar gyfer gwneud cais am drwydded o dan Orchymyn Rheoleiddio Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy a'i rhoi. Fe'i ddefnyddir wrth roi trwyddedau parhaol, ar brawf a thymor byr, a rhai na ellir eu hadnewyddu, a hefyd ar gyfer cyhoeddi ardystiadau.

Mae'r ddogfen yn esbonio'r canlynol:

  • pa dystiolaeth y dylid ei chynnwys mewn cais am drwydded a sawl pwynt y bydd y dystiolaeth honno'n werth
  • sut y bydd CNC yn prosesu ceisiadau
  • sut y bydd CNC yn cynhyrchu'r rhestr dyrannu trwyddedau
  • hawl ymgeisydd i apelio a’r weithdrefn apelio
  • sut y bydd CNC yn cynnig trwydded
  • terfynau amser ar gyfer talu os cynigir trwydded
  • sut y bydd CNC yn neilltuo trwyddedau tymor byr na ellir eu hadnewyddu
  • sut y cyfrifir ffi'r drwydded

Crynodeb o’r Weithdrefn Dyrannu Trwyddedau (Saeneg yn unig)

Crynodeb Asesu Person Cymwys a Phriodol (Saesneg yn unig)

Diweddarwyd ddiwethaf